Tîm Cymru yn disgyn dau le ar y rhestr detholion
- Cyhoeddwyd

Er bod tîm rygbi Cymru wedi gorffen yn bedwerydd yng Nghwpan y Byd yn Seland Newydd mae'r tîm cenedlaethol wedi disgyn i'r wythfed safle ar restr detholion y Bwrdd Rygbi Rhyngwladol.
Roedden nhw'n chweched cyn y bencampwriaeth.
Er bod Awstralia wedi gorffen yn drydydd ar ôl curo Cymru maen nhw yn ail yn y rhestr y tu ôl i'r pencamwpwyr Seland Newydd.
Ffrainc su'n drydydd, De Affrica yn bedwerydd a Lloegr yn bumed.
Mae Iwerddon, a gollodd yn erbyn Cymru yn y bencampwriaeth, wedi codi i'r chweched safle ac mae'r Ariannin wedi codi i'r seithfed safle.
Llwyddodd Cymru i gyrraedd y pedwar olaf yn y bencampwriaeth.
Un pwynt oedd rhyngddyn nhw â Ffrainc enillodd eu lle yn y rownd derfynol a hynny er gwaetha chwarae'r rhan fwyaf o'r gêm gydag 14 dyn wedi i Sam Warburton gael cerdyn coch.
Er gwaetha' ymdrechion arwrol tîm Warren Gatland yn y bencampwriaeth, Cymru yw'r unig wlad ymhlith y 10 uchaf i ddisgyn.
Tonga sy'n nawfed a'r Alban sy'n 10fed.