Penodi Rhodri Morgan yn Ganghellor Prifysgol Abertawe
- Cyhoeddwyd

Mae cyn-Brif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan, wedi cael ei benodi yn Ganghellor Prifysgol Abertawe mewn seremoni yno nos Lun.
Dywedodd Mr Morgan ei fod yn "dymuno cynorthwyo'r brifysgol i gyflawni ei huchelgais".
Fe wnaeth rhieni Mr Morgan raddio o Abertawe.
Dywedodd Is-Ganghellor y Brifysgol, Yr Athro Richard B Davies, y gallai'r brifysgol edrych ymlaen tuag at ddyfodol disglair.
Cafodd Mr Morgan, a ddaeth yn Brif Weinidog Cymru yn 2000, ei addysgu ym mhrifysgolion Rhydychen a Harvard.
Bu'n AS Gorllewin Caerdydd rhwng 1987 a 2001 ac yn AC Gorllewin Caerdydd rhwng 1999 a 2011.
Yn ôl y brifysgol mae codi proffil y sefydliad ymhlith ei gyfrifoldeb.
"Mae Rhodri Morgan yn dod â dyfnder profiad a gweledigaeth i'r rôl o ystyried ei record academaidd ddilychwyn yn ogystal â'i rôl fel gwas sifil a'i brofiad fel aelod etholedig a phrif weinidog."
Dywedodd Mr Morgan ei fod yn edrych ymlaen at yr her.
"Yn benodol dwi'n edrych ymlaen at y datblygiadau ar y campws Gwyddoniaeth a Mentergarwch a fydd yn manteisio ar enw da ymchwil Abertawe yn rhyngwladol," meddai.
"Fel canghellor dwi am gynorthwyo'r brifysgol i gyflawni ei hamcanion."