Mickey a McNeil yn cefnogi Morrell

Mickey Thomas Image copyright Getty Images
Image caption Mae Mickey Thomas wedi ei argyhoeddi mai Morrell yw'r ymgeisydd gorau am y swydd

Mae rheolwr dros dro tîm pêl droed Wrecsam, Andy Morrell, wedi ennill cefnogaeth dau o gyn chwaraewyr mwyaf enwog y clwb, wedi iddo ddatgan ei fod wedi gwneud cais am y swydd yn barhaol.

Mae Mickey Thomas a Dixie McNeil wedi eu hargyhoeddi mai Morrell yw'r ymgeisydd gorau.

Cafodd Morrell, 35 oed, y swydd dros dro wedi i'r cyn-reolwr Dean Saunders adael Wrecsam i fod yn rheolwr Doncaster Rovers ym mis Medi.

Ers i Morrell gymryd yr awenau mae'r Dreigiau wedi ennill 19 o'r 24 pwynt posib yn Uwchgynghrair y Blue Square Bet.

Rheolwr parhaol

Ar hyn o bryd maen nhw ar frig y gynghrair, ddau bwynt o flaen Fleetwood Town.

Cadarnhaodd Morrell ei awydd i fod yn rheolwr parhaol y clwb yn dilyn gêm ddi-sgôr yn erbyn Casnewydd ddydd Sadwrn.

"Mae o wedi cael amser gwych fel rheolwr Wrecsam a does dim angen newid unrhyw beth," meddai Mickey Thomas, a ddechreuodd ei yrfa gyda Wrecsam yn 1972, gan chwarae 51 o weithiau dros Gymru.

"Dwi'n siŵr nad yw'n gallu credu pa mor dda mae pethau wedi mynd.

"Mae gan y tîm record amddiffynnol orau'r gynghrair ac maen nhw'n sgorio llawer o goliau hefyd.

"Dwi'n credu bod yn rhaid i Andy Morrell gael y swydd nawr. Ac mae'n debyg y byddai'n well i'r clwb yn ariannol i'w benodi'n rheolwr.

"Petai nhw'n cael rhywun o'r tu allan mi fyddai'n costio mwy iddyn nhw."

Cryfhau'r garfan

Dywedodd Dixie Mc Neil y dylai'r Dreigiau benodi Morrell tan ddiwedd y tymor cyn ail ystyried y sefyllfa bryd hynny.

"Mae'n wir i ddweud fod y clwb wedi chwarae'n dda iawn o dan reolaeth Andy Morrell," meddai Mr McNeil, a sgoriodd 54 gôl mewn 167 gêm i'r clwb rhwng 1977 a 1982 cyn eu rheoli rhwng 1985 a 1989.

"Mae Andy yn adnabod y chwaraewyr i gyd, sydd yn fantais iddo," ychwanegodd.

Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam fydd yn penderfynu pwy fydd rheolwr parhaol y Dreigiau, ar ôl iddyn nhw ddod i gytundeb â'r cyn perchnogion i reoli'r clwb ym mis Medi.

Mae'r Ymddiriedolaeth yn obeithiol o ddechrau rheoli'r clwb yn ystod y dyddiau nesaf.

Mae Mr McNeil yn pryderu na fydd llawer o arian ar gael i Morrell gryfhau'r garfan.

"Os bydd Luton a Fleetwood yn dal wrth sodlau Wrecsam erbyn y Nadolig mae'n debygol y byddan nhw'n prynu chwaraewyr newydd," meddai Mr McNeil.

"Gallai hyn olygu'r gwahaniaeth rhwng Wrecsam yn ennill y gynghrair ac ennill lle yn y gemau ail gyfle."