Ffonio a gyrru: 1,000 wedi'u dal
- Cyhoeddwyd

Cafodd 1,000 o bobl yng Nghymru eu dal yn defnyddio ffonau symudol wrth yrru yn dilyn cyrch pythefnos gan yr heddlu.
Cynhaliodd Heddluoedd Gogledd Cymru, De Cymru, Dyfed-Powys a Gwent ymgyrchoedd yn ystod wythnos ola' mis Medi a'r wythnos gyntaf ym mis Hydref.
Cafodd 429 hysbysiad cosb benodol eu rhoi gan Heddlu Dyfed-Powys, 274 yn Ne Cymru, 129 yng Ngwent a 168 yng Ngogledd Cymru.
Roedd 505 o'r 1,000 o bobl a gafodd eu dal yn ddynion dros 26 oed, a chafodd 143 o fenywod dros 26 oed eu dal.
'Gwrthdrawiad difrifol'
Cafodd 181 o ddynion ac 89 o fenywod o dan 25 oed eu dal.
Hefyd cofnodwyd 82 trosedd lle nad oedd oedran na rhyw'r troseddwr yn hysbys.
Dywedodd Prif Gwnstabl Heddlu Dyfed-Powys, Ian Arundale: "Mae'r canlyniadau hyn yn amlygu ein hymrwymiad i fynd i'r afael â'r mater difrifol hwn.
"Mae ymchwil wedi canfod bod defnyddio ffôn symudol wrth yrru yn golygu eich bod pedair gwaith yn fwy tebygol o gael damwain.
"Dim ond eiliad sydd ei angen, a gallech achosi gwrthdrawiad difrifol neu fod yn gyfrifol am ddamwain angheuol.
"Nid yw galwad ffôn yn werth y perygl hwnnw."
Dywedodd Susan Storch, cadeirydd Diogelwch Ffyrdd Cymru: "Mae'n drist i weld cymaint o yrwyr yn cael eu dal yn gyrru wrth ddefnyddio ffonau symudol.
"Er hynny mae'r ymgyrch wedi dangos ymrwymiad holl bartneriaid Diogelwch Ffyrdd Cymru i fynd i'r afael â'r mater ac fe fyddwn ni'n parhau i weithio gyda'n gilydd i ledaenu'r neges fod rhaid i chi roi'r ffôn bant cyn gyrru bant."
Ers y newid yn y gyfraith ym mis Chwefror 2007, gallwch chi gael tri phwynt ar eich trwydded a dirwy o £60 os ydych yn cael eich dal yn defnyddio ffôn symudol wrth yrru.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Medi 2011
- Cyhoeddwyd22 Awst 2002