Uned trawma newydd i gleifion Powys

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty Frenhinol Amwythig
Disgrifiad o’r llun,
Y disgwyl yw i'r uned achub rhwng 25 a 40 bywyd y flwyddyn.

Bydd cleifion gydag anafiadau difrifol yng Ngogledd Powys, sy'n gorfod teithio fwy nag awr i'r uned trawma agosaf, yn cael eu trin yn nes i'w cartrefi o hyn ymlaen.

Mae Ysbyty Brenhinol Amwythig, sy'n trin miloedd o bobl o ganolbarth Cymru pob blwyddyn, yn agor uned trawma newydd.

Ar hyn o bryd mae'r uned trawma agosaf i bobl o Ogledd Powys yn Stoke a Birmingham, sydd fwy nag awr o daith mewn car.

Mae disgwyl y gallai'r uned achub rhwng 25 a 40 o fywydau'r flwyddyn.

Anafiadau difrifol

Nid oes yr un Ysbyty Cyffredinol Rhanbarthol ym Mhowys felly mae'r boblogaeth yng ngogledd y sir yn cael eu gwasanaethu gan Ysbyty Brenhinol Amwythig ac Ysbyty'r Dywysoges Frenhinol, Telford, Ysbyty Maelor Wrecsam, Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth ac Ysbyty Cyffredinol Hwlffordd.

Mae'r uned trawma yn yr Amwythig yn rhan o drefniadau rhanbarthol newydd i drin pobl ag anafiadau difrifol.

Dywedodd Ymddiriedolaeth Iechyd Ysbytai'r Amwythig a Telford y byddai pobl yn Swydd Amwythig, Swydd Telford a Wrekin a Chanolbarth Cymru yn gallu cael at wasanaethau achub bywyd yn haws.

Dywedodd Mark Prescott, ymgynghorydd meddyginiaeth brys yr ymddiriedolaeth: "Bydd sefydlu'r uned trawma yn ein galluogi ni i sicrhau bod cleifion ag anafiadau difrifol yn gallu cael gofal achub bywyd cyn gynted â phosib.

Ychwanegodd Mr Prescott fod Ysbyty Brenhinol Amwythig yn gwasanaethu poblogaeth sydd wedi ei gwasgaru dros ardal eang.

"Mae nifer o bobl yn byw cryn bellter i ffwrdd o'r prif ganolfannau trawma felly roedd wir angen uned trawma fan hyn."

Clefyd y galon

Dywedodd Aelod Seneddol Sir Drefaldwyn, Glyn Davies, ac Aelod Cynulliad Sir Drefaldwyn, Russell George, eu bod yn hapus iawn ynglŷn â'r newyddion.

"Mae'n galonogol iawn i glywed bod gan Ysbyty Brenhinol Amwythig uned trawma newydd," Meddai Mr Davies.

"Roedd yna bosibilrwydd na fyddai hyn wedi digwydd a byddai cleifion o Sir Drefaldwyn wedi gorfod teithio i'r uned trawma agosaf yn Birmingham."

Ychwanegodd Mr Davies y byddai'r ysbyty yn cyflwyno rhaglen sgrinio fasgwlar.

Bydd y gwasanaeth yn achub bywydau nifer o bobl sydd yn dioddef o glefyd y galon, yn ôl Mr Davies.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol