Anifail hirhoedlog yn gymorth i ymchwil

Arctica islandica Image copyright Other
Image caption Mae'r Arctica islandica yn gallu byw am gannoedd o flynyddoedd

Mae ymchwilwyr o Brifysgol Bangor yn astudio cragen fylchog hynod sydd wedi datgelu gwybodaeth bwysig am ddau bwnc gwahanol iawn: newid hinsawdd a'r broses heneiddio.

Prif nodwedd Arctica islandica yw ei hyd oes anhygoel.

Yn ddiweddar, darganfu gwyddonwyr o Brifysgol Bangor sbesimen sydd wedi byw am dros 500 mlynedd, yr anifail anghytrefol mwyaf hirhoedlog i gael ei ddarganfod erioed.

Yn union fel coed, mae Arctica islandica yn gadael cylchoedd blynyddol yn ei gragen a gellir defnyddio'r rhain fel cofnod o amgylchfyd yr anifail, sy'n galluogi gwyddonwyr i ail-greu newidiadau yn nhymheredd y môr dros gannoedd o flynyddoedd.

Gan nad yw rhai nodweddion henaint fel petaent yn effeithio arno, gallai Arctica islandica fod yn ddefnyddiol iawn mewn gwaith ymchwil i'r broses heneiddio a'r ffactorau sy'n cyfrannu at fywyd hir ac iach.

Cafodd yr arddangosfa ei chreu ar gyfer arddangosfa o wyddoniaeth dan nawdd y Gymdeithas Frenhinol.

Fe all ymwelwyr i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd weld y gragen tan ddydd Gwener.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.