Llofruddiaeth: Gohirio achos

Gallt Melyd Image copyright BBC news grab
Image caption Cafwyd hyd i Mr Sarkozi nos Fawrth, Hydref 18, ym mhentref Gallt Melyd

Mae dau ddyn sy'n wynebu cyhuddiad o lofruddio dyn yn Sir Ddinbych wedi cael eu cadw yn y ddalfa tan Ragfyr 20.

Ymddangosodd Gary Bland, 41 o Bryn Avenue, Y Rhyl, a James Siree, 21 o Vale Road, Y Rhyl, yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Mawrth.

Mae'r ddau wedi eu cyhuddo o lofruddio Gabor Sarkozi mewn digwyddiad ym mhentref Gallt Melyd ger Prestatyn nos Fawrth diwethaf.

Cafodd yr achos ei ohirio gan y Barnwr Merfyn Hughes QC.

Straeon perthnasol