Gynaecolegydd wedi'i ysgogi gan ryw
- Cyhoeddwyd
Mae gynaecolegydd sydd wedi ei farnu o ymddwyn yn "amhriodol" tuag at gydweithiwr a dau glaf wedi ei ddyfarnu'n euog o gamymddwyn.
Bu Dr Priyantha Kandanearachchi yn gweithio i Fyrddau Iechyd Caerdydd ac Abertawe.
Gwadodd mai ysgogiad rhywiol oedd wedi llywio ei ymddygiad ond penderfynodd panel o'r Cyngor Meddygol Cyffredinol (CMC) ym Manceinion fod ei ymddygiad wedi'i ysgogi gan ryw.
Nid oes penderfyniad wedi ei wneud ynglŷn â'r gosb y bydd yn wynebu.
Amhriodol
Clywodd y panel fod Dr Kandanearachchi wedi cyfaddef ei fod wedi ymddwyn yn amhriodol yn ystod ymgynghoriad â chlaf ym mis Tachwedd 2008 a chlaf arall ym mis Chwefror 2010.
Ond fe wadodd nifer o'r honiadau a gwadodd bod ei ymddygiad wedi'i ysgogi gan ryw.
Ond penderfynodd y panel fod ei ymddygiad wedi'i ysgogi gan ryw mewn un o'r achosion.
Yn ogystal penderfynodd y panel fod ei ymddygiad tuag at gydweithiwr benywaidd ym mis Gorffennaf 2010 yn amhriodol ac mai rhyw oedd ei gymhelliad.
Penderfynodd y panel fod Dr Kandanearachchi wedi "croesi ffiniau proffesiynoldeb" ym mhob un o'r tri achos a bod ei ymddygiad yn "wyriad difrifol o'r safonau a ddisgwylir gan ymarferwr meddygol cofrestredig".
Dywedodd dyfarniad y panel: "Does dim amheuaeth gan y panel fod eich gweithredoedd yn cyfri fel camymddwyn.
"Mae'r panel o'r farn fod y fath camymddwyn wedi tanseilio'r hyder sydd gan y cyhoedd yn y proffesiwn meddygol."
Ychwanegodd y dyfarniad fod ei "addasrwydd i weithio wedi ei amharu yn sgil eich camymddygiad".
Nid yw'r panel wedi dyfarnu eto ynglŷn ag unrhyw gosb bydd Dr Kandanearachchi yn ei wynebu.