Fandaliaeth ar reilffordd: Apêl
- Cyhoeddwyd
Mae'r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig wedi beirniadu "fandaliaid difeddwl" a osododd dalennau o fetel rhychiog ar reilffordd yng Nghaerdydd.
Fe wnaeth dau drên daro'r dalennau o fetel ddydd Sadwrn yn ardal Sain Ffagan.
Y trên cyntaf i daro'r metal oedd y 3.45pm o Paddington yn Llundain i Abertawe. Digwyddodd yr un peth i'r trên 4.45pm o Paddington i Abertawe.
Roedd nifer o gefnogwyr clwb pêl-droed Abertawe ar y ddau drên gan eu bod yn teithio nôl o wylio'r tîm yn chwarae yn Wolverhampton.
Daeth y ddau drên i stop wrth i swyddogion glirio'r traciau ac archwilio'r trenau i weld a oedd difrod.
Dywedodd yr Arolygydd Gary Ash: "Roedd hwn yn weithred fwriadol a maleisus a allai yn hawdd fod wedi arwain at drasiedi.
"Roedd y ddau drên yn brysur iawn ac fe gafodd diogelwch y teithwyr ei gyfaddawdu gan y fandaliaeth ddifeddwl hyn."
Dylai unrhyw un a gwybodaeth gysylltu â'r heddlu trafnidiaeth ar 0800 40 50 40 neu Daclo'r Taclau yn ddienw ar 0800 555 111.