Fferm bysgod yn cyfaddef llygredd

Draenogiaid y môr Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Mae'r cwmni yn cynhyrchu a chyflenwi draenogiaid y môr a merfogiaid

Mae fferm bysgod wedi cyfaddef llygru rhan o arfordir Ynys Môn sydd wedi ei warchod.

Plediodd Selonda UK yn euog o ollwng "elifion a chemegau" ar dir ym Mhenmon.

Clywodd Llys yr Ynadon Caergybi fod y llygredd wedi cannu rhan o glogwyn.

Mae'r cwmni hefyd wedi cyfaddef i beidio cydymffurfio ag amod trwydded amgylcheddol.

Draenogiaid y môr

Cafodd yr achos, a gafodd ei ddwyn gan Asiantaeth yr Amgylchedd, ei ohirio tan Dachwedd 22.

Yn dilyn y gwrandawiad, dywedodd David Edwell, rheolwr Gogledd Cymru Asiantaeth yr Amgylchedd: "Achosodd y weithred hon llygredd difrifol mewn ardal sensitif.

"Difrododd y llygredd fywyd gwyllt a gallai fod wedi niweidio unrhyw un fyddai wedi dod i gysylltiad ag ef.

"Mae Penmon yn safle sydd wedi ei ddiogelu ac sy'n boblogaidd gydag ymwelwyr a physgotwyr.

"Gallai'r llygredd hwn wedi cael ei osgoi pe bai'r cwmni wedi dilyn amodau eu trwydded amgylcheddol."

Cafodd Selonda UK eu creu 30 mlynedd yn ôl ac mae'r cwmni yn cynhyrchu a chyflenwi draenogiaid y môr a merfogiaid.

Mae gan y cwmni ffermydd pysgod yng ngwlad Groeg a Twrci yn ogystal i'r fferm ar Ynys Môn.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.