Agor hufnefa newydd yn Sir Gaerfyrddin
- Cyhoeddwyd

Bydd hefenfa newydd yn agor yn ne Cymru.
Fe fydd yr hufenfa newydd cwmni Proper Welsh Milk yn cael ei hagor yn swyddogol ddydd Iau.
Mae'r cwmni wedi buddsoddi £1.5 miliwn yn y fenter ar safle hen hufenfa Hendy-gwyn ar Daf, Sir Gaerfyrddin.
Ar y dechrau bydd y safle yn cyflogi 14 o weithwyr ac yn prosesu hyd at 10 miliwn litr o laeth y flwyddyn.
Dywedodd y cwmni mai'r gobaith yw cyflogi hyd at 40 o bobl.
Ym 1994 fe wnaeth yr hen hufenfa gau.
Roedd ar safle 19 erw ac ar un adeg roedd 1,400 o ffermwyr llaeth y gorllewin yn cyflenwi'r safle.
Mae cwmni Proper Welsh Milk yn gweithio mewn partneriaeth â chwmni Calon Wen, cwmni cydweithredol o 25 o ffermydd.
"Ar hyn o bryd mae'r rhan fwyaf o laeth yn gadael Cymru er mwyn cael ei brosesu dros y ffin yn Lloegr," meddai Richard Arnold o gwmni Proper Welsh.
"Beth sydd ei angen ar Gymru yw'r adnoddau i brosesu llaeth yma, yn hytrach na'i anfon dros y ffin ac yna yn ôl yma."
Bydd y llaeth ar gael mewn dros 50 o archfarchnadoedd ledled Cymru ac mewn siopau annibynnol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Mehefin 2010
- Cyhoeddwyd15 Ionawr 2010
- Cyhoeddwyd28 Hydref 2009