Heddlu: Apêl am wybodaeth am ddyn
- Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu yn chwilio am David William Evans
Mae'r heddlu yn apelio am wybodaeth ar ôl i ddyn, a gafodd ei ryddhau o'r carchar ar drwydded, dorri amodau ei drwydded.
Mae'r heddlu yn chwilio am David William Evans, 25 oed, gynt o Heol Ystumllwynarth, Abertawe.
Y mae'n 5 troedfedd 11 modfedd o daldra, o faintioli canolig.
Dylai pobl all fod o gymorth i'r ymchwiliad ffonio Heddlu'r De ar 101, neu Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555111.