Marwolaeth merch 7 oed: Mwy o brofion
- Published
Mae mwy o brofion yn cael eu cynnal i ganfod achos marwolaeth merch saith oed mewn maes carafannau yng Ngwynedd ddydd Llun.
Cafodd parafeddygon a hofrennydd y Llu Awyr eu galw i faes carafannau Islawrffordd yn Nhalybont ger Y Bermo fore Llun.
Cafodd Harriet Hubball o Warrington ei chludo gan hofrennydd i Ysbyty Gwynedd ym Mangor lle bu farw'n ddiweddarach.
Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru nad oedd ei marwolaeth yn cael ei ystyried fel un amheus.
Achos marwolaeth
Deellir bod y ferch yn aros gyda'i thad mewn carafán deithiol yn ystod hanner tymor tra bod ei nain a thaid yn aros ar faes carafannau arall yn yr ardal.
Dywedodd llefarydd ar ran maes carafannau Islawrffordd nad oedden nhw'n gwybod am y digwyddiad tan iddynt weld dau ambiwlans y tu allan i'r garafán.
Dywed swyddfa crwner Gogledd-orllewin Cymru fod mwy o brofion yn cael eu cynnal i ganfod achos marwolaeth Harriet Hubball.
Dywedodd llefarydd ar ran y gwasanaeth ambiwlans fod dau ambiwlans a hofrennydd y Llu Awyr wedi cael eu galw i'r maes carafannau tua 4.35am ddydd Llun.