Dociau Abertawe: Trwydded yn 'debygol'

  • Cyhoeddwyd
Doc sych Tywysog Cymru, AbertaweFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,
Mae'r cwmni wedi buddsoddi £4m yn y dociau

Mae Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru yn debygol o ganiatáu trwydded i gwmni sydd am adfer ac ailgylchu llongau yn nociau sych Abertawe.

Dywed Swansea Drydocks Cyf, sydd wedi buddsoddi £4m, eu bod yn obeithiol y bydd y gwaith yn dechrau cyn bo hir.

Yn ôl yr Asiantaeth roedd y cwmni wedi eu hargyhoeddi fod yna gynllun i sicrhau na fydda'r gwaith yn niweidio'r amgylchedd.

Dywed yr Asiantaeth eu bod wedi ymgynghori â sefydliadau lleol gan gynnwys cyngor y ddinas, y gwasanaeth tân, y bwrdd iechyd a phwyllgor pysgodfeydd môr de Cymru.

Dywedodd rheolwr de-orllewin yr Asiantaeth, Steve Brown: "Rydyn ni wedi ystyried y cais hwn yn ofalus ac rydyn ni wedi drafftio trwydded fydd yn gofyn i Swansea Drydocks Cyf i gydymffurfio â'r safonau amgylcheddol uchaf ac i weithredu mewn modd fydd yn gwarchod y gymuned leol a'r amgylchedd.

"Mae'r cyfnod ymgynghorol olaf yn rhoi cyfle i bawb i ystyried y drwydded rydyn ni wedi ei ddrafftio a'r rhesymau am ein penderfyniad.

"Fe fyddwn ni'n ystyried unrhyw wybodaeth newydd neu wybodaeth berthnasol cyn inni wneud ein penderfyniad terfynol."

Ymchwiliad cyhoeddus

Dywedodd y cwmni eu bod wrth eu bodd gyda'r dyfarniad dros dro ac y byddan nhw'n dechrau derbyn archebion cyn gynted ag y bydd y drwydded yn cael ei chaniatáu.

Mewn datganiad, dywed y cwmni: "Bydd y rhan gyntaf o'n cynllun buddsoddi cyfalaf gwerth £4m yn cael ei gwblhau cyn bo hir."

Ym mis Tachwedd y llynedd fe apeliodd y cwmni yn erbyn penderfyniad Cyngor Sir a Dinas Abertawe i wrthod cais i ddatgymalu ac ailgylchu llongau yn y dociau ar sail eu bod angen caniatâd cynllunio.

Ond enillodd y cwmni'r apêl yn dilyn ymchwiliad cyhoeddus.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol