Dal casglwyr cocos anghyfreithlon
- Cyhoeddwyd

Mae swyddogion o Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru wedi dal dau ddyn sy'n cael eu hamau o hel cocos yn anghyfreithlon.
Gwelwyd y ddau, 23 a 29 oed o ardal Sir y Fflint, am tua 6pm nos Fawrth ar welyau cocos aber Afon Dyfrdwy.
Mae'r Asiantaeth wedi adrodd i'r awdurdodau am y ddau ac wedi atafaelu eu hoffer fel tystiolaeth.
Mae'r rhain yn cynnwys rhaca, rhidyll, bag a theclyn sy'n cael ei ddefnyddio i ddod â'r cocos i'r wyneb.
Cafodd tri bag o gocos yn pwyso 75kg eu dychwelyd i'r gwelyau cocos yno.
Roedd Heddlu Glannau Mersi yn cynorthwyo Asiantaeth yr Amgylchedd gyda'r cyrch.
'Rhyfeddol o beryglus'
"Mae casglwyr cocos trwyddedig y talu fel y gallant gasglu cocos o'r gwelyau yma mewn modd diogel a chynaliadwy," meddai llefarydd ar ran Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru.
"Mae'r math yma o weithgaredd anghyfreithlon yn bygwth eu bywoliaeth a dyfodol y gwelyau cocos.
"Hefyd mae'n rhyfeddol o beryglus i geisio cael mynediad i'r gwelyau yma heb y wybodaeth arbenigol sydd gan y casglwyr trwyddedig.
"Maen nhw wedi pysgota yma am flynyddoedd, ac yn adnabod y llanw ac ardaloedd sy'n achosi trafferthion.
"Rydym yn annog pobl i beidio ceisio casglu cocos yn anghyfreithlon gan eu bod yn peryglu eu diogelwch ac yn debyg o gael eu herlyn."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Awst 2011
- Cyhoeddwyd21 Mehefin 2011