Lansio Apêl y Pabi 2011

Y Pabi Image copyright PA
Image caption Gobaith y Lleng Brydeinig yw casglu £40 miliwn at gefnogi milwyr, cyn-filwyr a'u teuluoedd eleni

Wrth lansio Apêl Pabi y Lleng Brydeinig maen nhw'n awyddus i godi £40 miliwn eleni, £3 miliwn yng Nghymru.

Caiff yr apêl ei lansio yn swyddogol ddydd Iau, ychydig dros bythenfos cyn Dydd y Cadoediad.

Er mwyn helpu gyda'r gwaith o gasglu'r arian maen nhw'n ail gyhoeddi un o glasuron y Bee Gees, 'I've Gotta Get A Message To You'.

Fe aeth y sengl gan The Soldiers a Robin Gibb yn syth i rif un yn siartiau Amazon yr wythnos yma a'r disgwyl yw y bydd yn gwneud yr un peth yn y siart swyddogol - gan olygu y byddai Robin Gibb wedi cael rhif un yn y chwe degawd diwethaf.

Mae dyddiad Dydd y Cadoediad eleni yn un arwyddocâol, 11-11-11, ac mae'r apêl yn ddiweddglo i flwyddyn o ddathliadau 90 mlynedd yr apêl.

Yng Nghymru thema'r apêl yw sefyll ysgwydd yn ysgwydd gyda'r lluoedd arfog i gynorthwyo'r rhai sydd wedi cael eu hanafu mewn brwydrau diweddar.

Colli golwg

Yn Llandudno y bydd yr apêl yn cael ei lansio gan y Corporal Glen Edwards o Gatrawd Cyntaf y Cymry Brenhinol.

Cafodd ei anafu mewn damwain wrth hyfforddi ar gyfer cael ei anfon dramor wedi cyfnodau yn gwasanaethau yng Ngogledd Iwerddon, Irac ac Afghanistan.

Mae wedi colli ei olwg ac yn rhannol fyddar yn ogystal â cholli'r mwyafrif o'i fraich chwith.

Fe fydd yn lansio'r apêl yng Nghanolfan St Dunstan's, Llandudno, canolfan sydd wedi elwa o £2.6 miliwn gan Y Lleng Brydeinig ar gyfer adain newydd sy'n cynorthwyo milwyr a chyn-filwyr sy'n ddall neu yn rhannol ddall i ailsefydlu.

Caiff 383 o falwns eu rhyddau, bob un i gofio am y 383 o filwyr a fu farw yn Afghanistan.

"Rydym yn annog pawb i gefnogi'r apêl eleni gan y bydd yr arian yn cael ei roi tuag at ofal allweddol i'r milwyr sydd wedi eu hanafu," meddai Alma Tipping, Swyddog Lles y Lleng Brydeinig.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.