Hwb i bysgod fudo yn Afon Alun
- Cyhoeddwyd

Mae mynedfa bysgod newydd wedi agor er mwyn rhoi hwb i bysgod fudo yn un o afonydd y gogledd ddwyrain.
Asiantaeth yr Amgylchedd sydd wedi llunio'r llwybr ar Afon Alun yn Sir y Fflint.
Cafodd y gwaith ei gwblhau ym mis Medi er mwyn gwella stoc pysgod yr afon.
Aelod Cynulliad Gogledd Cymru, Aled Roberts, wnaeth agor y fynedfa yn swyddogol yr wythnos yma.
Mae 'na sawl rhwystr hanesyddol wedi ei wneud gan ddyn ar hyd Afon Alun.
Mae hyn wedi rhwystro pysgod rhag symud gan arwain at lai o bysgod yn yr afon, sef isafon o Afon Ddyfrdwy.
Ac o ganlyniad i ddiffyg poblogaeth mae'r afon yn methu cyrraedd safonau ecolegol sydd ei angen gan Cyfarwyddeb Fframwaith Dŵr yr Undeb Ewropeaidd.
Statws ecolegol
Cafodd y fynedfa newydd ei adeiladu fel rhan o gynllun "Eog ar gyfer yfory" yr asiantaeth.
Daeth cefnogaeth ariannol gan Gronfa Pysgodfeydd yr Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth Cymru.
Fe fydd y fynedfa newydd yn caniatáu'r pysgod i ymfudo i fyny'r afon ac i sil a fydd yn cynyddu'r boblogaeth ac yn gwella statws ecolegol yr afon.
"Mae adeiladu ac agor y fynedfa yma yng Nghaergwrle wedi caniatáu hyd at 22 cilometr o gynefin ar gyfer y pysgod ifanc," meddai Alan Winstone, o Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru.
"Fe fydd hyn o fudd i rywogaethau fel yr eog, y brithyll a'r llyswennod sy'n ddibynnol ar lwybr afon iach.
"Mae pysgodfeydd fel yr Alun yn cyfrannu'n bositif tuag at gymunedau Cymru ac fe fyddwn yn parhau i weithio gyda'n holl bartneriaid i sicrhau eu bod yn gynaliadwy i'r dyfodol."
Dywedodd Mr Roberts yr AC, bod yr Asiantaeth yn gwneud gwaith pwysig o ran glanhau'r afonydd.
"Mae symud y rhwystrau yn ddatblygiad i'w groesawu yn enwedig o ran y cynnydd mewn stoc pysgod.
"Dwi'n hynod o falch o fod yn agor y fynedfa newydd yma yng Nghaergwrle ac ar Afon Alun.
"Mae'n dangos y cynnydd sy'n cael ei wneud yma yng ngogledd Cymru."