Wedi'r sgandal be nesa' i Brifysgol Cymru?
- Cyhoeddwyd

Wedi misoedd o adroddiadau yn y wasg am sgandal o fewn Prifysgol Cymru, mae'r sefydliad bron i 120 oed wedi dod i ben.
Sefydliadau oedd â chysylltiad gyda Phrifysgol Cymru oedd yn amheus neu'n cynnig cymorth i gael fisas trwy dwyll oedd cwymp y sefydliad.
Erbyn 2008 roedd dros 20,000 o fyfyrwyr wedi cofrestru ar gyfer cwrs gradd Prifysgol Cymru mewn 30 o wledydd, gan greu incwm o dramor o dros £2 miliwn.
Ym mis Mawrth fe wnaeth Adroddiad McCormick, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, ddisgrifio'r sefydliad fel un "risg uchel" gan ddweud y dylai'r Brifysgol ddod i ben petai cynlluniau ar gyfer ei dyfodol yn methu.
Wedi dwy raglen ymchwiliadol Week In Week Out BBC Cymru daeth galwadau am ddirwyn y Brifysgol i ben gan nifer o brifysgolion eraill Cymru, ac fe alwodd Gweinidog Addysg Cymru, Leighton Andrews, ar gadeirydd y brifysgol i adael ei swydd.
Roedd y Brifysgol eisoes wedi dweud na fydden nhw'n cymhwyso graddau gan sefydliadau eraill yn y DU na thramor.
Ond doedd hyn ddim yn ddigon i dawelu'r beirniaid.
Daeth Prifysgol Cymru i ben i bob pwrpas ddydd Gwener ddiwethaf.
Bydd nawr yn uno gyda Phrifysgol Y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Fetropolitan Abertawe ac uno o dan Siarter Frenhinol Y Drindod Dewi Sant 1822 nid siarter 1893 Prifysgol Cymru.
Ond mae 'na gwestiynau o hyd am y brifysgol newydd, sut sefydliad fydd o a be fydd yn digwydd i asedau Prifysgol Cymru.
Mae disgwyl i'r uno ddigwydd erbyn mis Awst 2012.
Dywedodd llefarydd fod y broses yn ei dyddiau cynnar gyda chyfarfodydd yn cael eu cynnal gyda phawb sy'n gysylltiedig.
Bydd enw Prifysgol Cymru yn parhau.
Enw'r sefydliad newydd fydd Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant.
Mae'r Is-Ganghellor, Yr Athro Medwin Hughes, wedi dweud na ddylid cael gwared ar yr enw.
Sefydliadau eraill
Mae o hefyd wedi ceisio lleihau'r pryderon am y sefydliadau sy'n gysylltiedig gyda Phrifysgol Cymru.
Mae BBC Cymru wedi siarad gydag academyddion sy'n ansicr am yr hyn a fydd yn digwydd i Wasg prifysgol Cymru, Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd, Geiriadur Prifysgol Cymru a chanolfan gynadleddau Neuadd Gregynog ym Mhowys.
"Mae'r sefydliadau yma yn gwbl allweddol i ysgolheictod Cymru," meddai'r Athro Hughes gan ychwanegu y bydd y corff newydd yn "sicrhau addewid cadarn i ddiogelu ysgolheictod a gweithgareddau".
Dywedodd llefarydd ar ran Undeb y Prifysgolion a Cholegau y byddai'n cefnogi uno ar yr amod nad oedd yn cynnwys diswyddiadau gorfodol.
Yn ôl Geraint Talfan Davies, cadeirydd Sefydliad Materion Cymreig, mae'n anodd iawn gweld sut y gallai hen Brifysgol Cymru ffitio i "jig-so" addysg uwch Cymru.
"Roedd yr enw yn unig yn awgrymu uchafiaeth o fewn y sector nad oedd â sail iddo.
"Y peth pwysig yw cael y sector yn gywir....gwella marchnata o fewn y system addysg uwch yn y DU."
Gobeithiol
I rai o fewn y sector, nid dyfodol Prifysgol Cymru ddylai fod y flaenoriaeth i sector sy'n brwydro am gyllid.
Dywedodd Is-Ganghellor Prifysgol Abertawe, Yr Athro Richard B Davies, ei fod yn obeithiol y gallai addysg uwch yng Nghymru symud ymlaen o'r problemau diweddar.
"Mae 'na bethau mwy a phwysicach i bryderu amdanyn nhw," meddai pennaeth corff a oedd yn cynnal trafodaethau uno gyda Phrifysgol Cymru tan yn ddiweddar.
"Mae'n bwysig nad ydym yn beio pobl am yr hyn sydd wedi digwydd ond yn symud ymlaen mor fuan â phosib."
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud eu bod am weld llai o brifysgolion yng Nghymru, gyda'r nifer yn disgyn o 11 i 6.
Dywedodd Leighton Andrews, Gweinidog Addysg Cymru, yn gynharach eleni fod rhaid i'r sefydliadau "addasu neu farw"
Ond mae'n bosib nad oedd yn disgwyl i'r sector wynebu'r fath ysgytwad ac nad dyma'r "angladd teilwng" yr oedd am ei weld.
O fewn dyddiau i'r cyhoeddiad am uno Prifysgol Cymru a'r Drindod Dewi Sant, mae'n ymddangos bod Llywodraeth Cymru wedi peidio cyfri Prifysgol Cymru fel un o brifysgolion Cymru.
Yn ystod ymweliad yr wythnos yma â China, roedd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, yn canmol cynllun i ehangu arbenigedd prifysgolion Cymru yn y wlad - y tro cyntaf i'r "10 prifysgol" ddod at ei gilydd.
Doedd Prifysgol Cymru ddim ar y rhestr.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Hydref 2011
- Cyhoeddwyd21 Hydref 2011
- Cyhoeddwyd19 Hydref 2011
- Cyhoeddwyd10 Hydref 2011
- Cyhoeddwyd6 Hydref 2011
- Cyhoeddwyd5 Hydref 2011
- Cyhoeddwyd5 Hydref 2011