Cynghorau: Sefydlu cyrff i arbed arian?
- Cyhoeddwyd

Mae rhai o awdurdodau lleol Cymru yn ystyried sefydlu elusennau mewn ymgais i leihau'r gost o redeg gwasanaethau fel canolfannau hamdden a phyllau nofio.
Mae cynghorau yn Abertawe a Phen-y-bont ar Ogwr yn adolygu eu gwasanaethau hamdden.
Yr wythnos nesaf fe fydd cynghorwyr yn Nhorfaen yn clywed y gall trosglwyddo eu gwasanaethau i "Sefydliad nad yw'n Dosbarthu Elw" (SDE) yn arbed hyd at £1.4 miliwn dros bum mlynedd.
Mae adroddiad ar gyfer cabinet y cyngor yn honni y byddai trosglwyddo gwasanaethau hamdden i gorff elusennol yn cynnwys "arbed costau swyddfa" a throsglwyddo llawer o'r costau dyddiol i'r sefydliad newydd.
Gweithgarwch corfforol
Byddai sefydliad dielw hefyd yn elwa o fanteision trethi nad ydyn nhw ar gael i awdurdodau lleol yn ogystal â'r gallu i wneud ceisiadau am grantiau a chyllid y sector breifat.
Gallai nifer o ganolfannau hamdden gael eu heffeithio gan gynnwys Stadiwm Cwmbrân a Chanolfan Sgïo Pont-y-pŵl.
Mae Prosiect Gwasanaethau Byw'n Iach Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr yn ystyried y ffordd orau i gyllido eu strategaeth i wella gweithgarwch corfforol wrth ddygymod â phwysau ariannol.
Ac mae Cyngor Abertawe yn adolygu'r rheolaeth o'u canolfannau hamdden dan do.
Eisoes mae canolfan hamdden yr LC, a gafodd ei hagor yn 2008 wedi cynllun adnewyddu gwerth £32 miliwn, yn cael ei rheoli gan gwmni dielw ar ran yr awdurdod lleol.
Ers 2003 mae chwe chanolfan hamdden a phwll nofio yn ardal Castell-nedd Port Talbot wedi eu rheoli gan gwmni Celtic Community Leisure mewn cytundeb gwerth £1.8 miliwn y flwyddyn.
Dywedodd, Jeff Jones, sy'n ymgynghorydd llywodraeth leol a chyn arweinydd Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr, nad oedd rhaid i awdurdodau lleol gynnig gwasanaethau hamdden yn yr un modd â gwasanaethau addysg neu wasanaethau cymdeithasol.
"Does dim un gwasanaeth hamdden yn gwneud elw," meddai.
"Gall hyd yn oed ganolfan hamdden boblogaidd golli £500,000 y flwyddyn ac mae pyllau nofio yn gallu colli tua £100,000 y flwyddyn.
"Y broblem sy'n wynebu awdurdodau lleol yw sut allan nhw gyfiawnhau colli arian ar wasanaethau hamdden pan maen nhw'n gorfod gwneud toriadau i wasanaethau addysg.
"Gall corff dielw newid telerau ac amodau gweithwyr ac osgoi talu trethi busnes."
Straeon perthnasol
- 3 Hydref 2011
- 12 Chwefror 2004