Ymchwilio i ddwyn arian o giosgau ffôn
- Cyhoeddwyd

Cafodd arian ei ddwyn o sawl ciosg yn y canolabrth
Mae Heddlu Dyfed Powys yn ymchwilio i gyfres o ladradau arian o giosgau ffôn.
Fe ddigwyddodd y troseddau yma nos Fawrth Hydref 25.
Roedd y digwyddiadau yng nghanol tref Aberystwyth ac mewn sawl pentref ar hyd ffordd yr A487 cyn belled â Synod Inn yn y de.
Mae tri dyn a gafodd eu harestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth.
Roedden nhw'n teithio mewn car VW Golf arian.
Mae'r heddlu yn awyddus i glywed gan unrhyw un a allai fod wedi gweld y car yma neu'r dynion yn ymddwyn yn amheus yn ystod nos Iau i gysylltu gyda'r heddlu yn Aberystwyth ar 101.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol