Gwobr fawreddog i reilffordd fechan
- Cyhoeddwyd
Adroddiad Cemlyn Davies
Bydd rheilffordd yng Ngwynedd yn cael ei hanrhydeddu am fod yn un o lwyddiannau peirianegol mwyaf Prydain dros y Sul.
Bydd Rheilffordd Tal-y-llyn yn derbyn Gwobr Treftadaeth Peirianneg am ei phwysigrwydd i'r ddisgyblaeth ddydd Sul.
Hon fydd y 67ain wobr o'i bath i gael ei chyflwyno gan Sefydliad y Peirianyddion Mecanyddol ers iddynt ddechrau cyflwyno'r gwobrwyon ym 1984.
Mae'r rheilffordd a gafodd ei hagor ym 1866 wedi ennill y wobr am fod y rheilffordd gul ddi-dor hynaf ym Mhrydain.
Tomos y Tanc
Bydd y rheilffordd yn ymuno â llwyddiannau peirianegol eraill fel y trên cyntaf, yr awyren Fylcan, a rheilffordd Ffestiniog.
Bydd y seremoni wobrwyo yn cael ei chynnal yng Ngorsaf Tywyn am 2.45pm ddydd Sul.
Adeiladwyd rheilffordd gul Tal-y-llyn yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg i gario llechi o chwareli Bryn Eglwys ger Abergynolwyn.
Roedd teithwyr yn defnyddio'r trên i gyrraedd mannau anghysbell yn y mynyddoedd ynghyd â'r chwarel leol.
Mi gafodd llechi o chwarel Bryn Eglwys eu defnyddio ar gyfer toi Palas San Steffan yn Llundain.
Er bod y chwarel wedi cau yn 1946, yn 1950 y daeth taith y trên i ben ond nid cyn i fudiad gael ei sefydlu i warchod y rheilffordd.
Er 1951 bu gwirfoddolwyr Cymdeithas Gwarchod Rheilffordd Tal-y-llyn yn rhedeg y lein ac yn ei gwella.
Un o'r gwirfoddolwyr hynny oed y Parchedig Wilbert Awdry a weithiodd ar y llinell ym 1952.
Ysbrydolodd y rheilffordd y Parchedig Awdry i ysgrifennu straeon Tomos y Tanc.
Straeon perthnasol
- 13 Gorffennaf 2005
- 13 Ionawr 2004
- 19 Ebrill 2000
- 8 Gorffennaf 2000