Cyn-blismon yn euog o drosedd rhyw
- Cyhoeddwyd

Mae cyn-Arolygydd gyd Heddlu De Cymru wedi pledio'n euog i gynllwynio i annog eraill i ymosod yn rhywiol ar blentyn o dan 13 oed.
Roedd Geraint Lloyd Evans, o Langrallo ger Pen-y-bont ar Ogwr, wedi cymryd rhan mewn trafodaethau ar-lein am gam-drin.
Cafodd ei arestio wedi ymchwiliad i Keith Bold, yn wreiddiol o Fynachlog Nedd, sy'n treulio dedfryd o 28 mis o garchar am fod a dros 6,000 o ddelweddau a 181 o ddarnau fideo o gam-drin plant ar ei gyfrifiadur.
Canfu'r heddlu fod Bold wedi bod yn trafod cam-drin gyda phedoffiliaid eraill gan gynnwys Lloyd Evans.
Trafod rhyw
Mewn un sgwrs rhwng y ddau fe drefnwyd i gwrdd yng nghartref ffrind yng Nghaerffili.
Clywodd y rheithgor fod Bold wedi ysgrifennu "biti na fyddai gennym bethau ifanc i chwarae gyda nhw", a bod Lloyd Evans wedi ateb "fe allai hynny ddigwydd" gan ychwanegu fod ganddo "ffrindiau pervy allai drefnu" petai Bold yn gallu profi ei fod o ddifri.
Ar achlysur arall bu'r ddau yn trafod cael rhyw geneuol gyda phlentyn benywaidd.
Bu trafodaeth debyg rhwng Bold a diffynnydd arall, Leslie Asser, lle y gwnaeth Bold honni ei fod wedi cyflawni hynny eisoes, er iddo wadu hynny'n ddiweddarach.
Dywedodd wrth yr heddlu ei fod wedi dweud hynny fel ymffrost er mwyn ei hygrededd o fewn y grŵp.
Roedd Asser a Wayne Barnes o Gastell-nedd eisoes wedi pledio'n euog i annog eraill i gyflawni ymosodiad rhywiol ar blentyn o dan 13 oed.
Plediodd Lloyd Evans yn euog ddydd Mawrth, ond oherwydd cyfyngiadau'r llys doedd dim modd adrodd hynny tan ddydd Iau.
Fe fyddan nhw'n cael eu dedfrydu ar Dachwedd 22 neu yn hwyrach.