Hwb ariannol i adfywio Aberystwyth
- Cyhoeddwyd

Mae mwy na £195,000 o arian Llywodraeth Cymru wedi cael ei neilltuo ar gyfer dau brosiect a fydd yn helpu i adfywio tref Aberystwyth.
Bydd y cyllid yn cael ei ddefnyddio i wella cysylltiadau trafnidiaeth rhwng Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Phrifysgol Aberystwyth, ac i gefnogi'r gwaith o ddatblygu gŵyl ffotograffiaeth.
Bydd grant o £192,750 yn cael ei ddefnyddio i adeiladu ffordd a fydd yn cysylltu cefn y Llyfrgell a Champws y Brifysgol ym Mhenglais.
O ganlyniad, bydd bysiau a beiciau yn gallu teithio mewn cylch o amgylch y campws.
Ffoto-marathon
Bydd yna hefyd gyswllt o'r dref a fydd yn aros mewn safleoedd poblogaidd fel y Llyfrgell, y Ganolfan Hamdden a Chanolfan y Celfyddydau.
Mae'r prosiect yn enghraifft o gydweithio rhwng sefydliadau lleol, a'r bartneriaeth sydd wedi'i sefydlu rhwng y Llyfrgell, y Brifysgol, y Ganolfan Hamdden a Chanolfan y Celfyddydau i gwblhau'r prosiect.
Partneriaeth ffotograffiaeth leol sydd wedi cael £3,847.50 i ddatblygu gŵyl ffotograffiaeth yn Aberystwyth yr hydref hwn.
Bydd FfotoAber yn datblygu ar lwyddiant yr Ŵyl Lens, sy'n cael ei chynnal gan y Llyfrgell Genedlaethol, a bydd yn cynnwys ffoto-marathon, orielau yn y dref, tafluniadau mawr a chystadlaethau ar gyfer ysgolion lleol.
Dywedodd Huw Lewis, y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth: "Mae ein rhaglen adfywio eisoes yn gwneud gwahaniaeth i amgylchedd cymdeithasol ac amgylchedd ffisegol Aberystwyth.
"Mae ein harian yn helpu i wella golwg adeiladau yng nghanol y dref a thai cymdeithasol.
"Diolch i'n cymorth ni, cafodd cymal o Daith Gyfres Halfords ei gynnal yn y dref."
Mae disgwyl hefyd i'r gwaith ddechrau cyn bo hir ar y safle cyn hir i godi Adizone ac ardal ar gyfer gemau amrywiol ym Min y Ddôl, Penparcau.
"Bydd ariannu'r prosiectau diweddaraf hyn yn helpu i ddarparu cysylltiadau trafnidiaeth gwell i gyrchfannau creadigol y dref, ac yn helpu pobl i ddatblygu eu sgiliau a'u gwybodaeth drwy gyfrwng yr ŵyl ffotograffiaeth," meddai Mr Lewis.
Mae'r arian ar gyfer y prosiectau hyn wedi cael ei neilltuo o raglen Ardal Adfywio Aberystwyth.
Ar hyn o bryd, mae saith ardal adfywio wedi cael eu sefydlu gan Lywodraeth Cymru, sef Blaenau'r Cymoedd, Môn a Menai, Arfordir y Gogledd, y Cymoedd Gorllewinol, Abertawe, Aberystwyth a'r Barri.