Pobl ifanc i greu ffilmiau byrion Cymraeg
- Cyhoeddwyd

Mae S4C yn ceisio meithrin talentau newydd ym myd y ffilm drwy gyd-weithio gyda Gŵyl Ffresh, digwyddiad arbennig i fyfyrwyr ffilm.
Eu bwriad yw canfod pump o bobl ifanc i greu ffilmiau byrion Cymraeg sy'n adlewyrchu'r Gymru gyfoes yn cynnwys ei phobl, cymunedau, ardaloedd neu ddigwyddiadau.
Gall y ffilmiau byr fod yn rhai dogfennol, fideos cerdd, neu gerddi gweledol a rhaid iddynt fod yn union 3 munud o hyd.
Dangosir y 5 ffilm fer yn Ffresh 2012 a gynhelir yn Ysgol Ffilm Casnewydd rhwng 8-10 Chwefror a chânt wedyn eu dangos ar S4C yn ogystal â bod ar gael ar wefan arbennig.
Bydd y pum cynnig a ddetholir yn derbyn arweiniad gan Ffresh ar hyd y broses gynhyrchu ac yn cael gwobr ariannol o £400.
'Arloesol'
Dywedodd Garffild Lloyd Lewis, Cyfarwyddwr Cyfathrebu S4C: "Rwy'n hynod falch bod S4C yn medru meithrin talentau newydd ym myd y ffilm drwy gyd-weithio gyda Ffresh yn y cynllun arloesol hwn.
"Mae'r gystadleuaeth yn un addas i fod yn rhan o'n hymgyrch Calon Cenedl sydd yn tanlinellu rôl S4C fel darlledwr sydd nid yn unig â phresenoldeb ar y sgrin ond hefyd yng nghanol bwrlwm a chyffro'n cymunedau ar draws Cymru."
I gymryd rhan yn y gystadleuaeth mae'n rhaid i chi fod rhwng 16 a 24 oed ac yn byw yng Nghymru a bod â mynediad i gamera delwedd symudol HD ac offer golygu.
Y dyddiad cau ar gyfer cynlluniau yw dydd Gwener, 18 Tachwedd.
Caiff y pum ymgeisydd a ddewiswyd eu hysbysu erbyn dydd Gwener 25 Tachwedd.
Y dyddiad cau ar gyfer ffilmiau byr wedi'u cwblhau yw dydd Gwener, 3 Chwefror.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Hydref 2011