Alcohol: Gwahardd dyn rhag gyrru
- Cyhoeddwyd
Mae dyn a yrrodd gyda'i bartner a'i babi ar ôl yfed tair gwaith y lefel cyfreithiol o alcohol, wedi cael ei wahardd o yrru am ddwy flynedd.
Fe wnaeth Stephen Gallagher, 42 oed, wadu'r drosedd ond fe'i cafwyd yn euog gan Ynadon Wrecsam.
Clywodd y llys bod Gallagher, saer hunangyflogedig, wedi gyrru i'w gartref yn Wrecsam ar ôl casglu ei bartner a'i babi o dafarn.
Rhoddwyd gwybod i'r heddlu ac aethant i'w gartref.
Clywodd gwrandawiad blaenorol bod swyddogion yr heddlu wedi ei rwystro rhag yfed gwin o'r oergell, ac fe honnodd bod yr alcohol yn ei system wedi cael ei yfed ar ôl iddo yrru adref.
Cafodd Gallagher ei wahardd rhag gyrru am ddwy flynedd ac mae'n rhaid iddo gyflawni 150 awr o waith di-dâl a mynychu gweithdy alcohol.
Gorchmynnwyd iddo dalu costau o £900.