Abertawe: Croeso cynnes i Pratley?

Darren Pratley (canol) yn dathlu dyrchafiad Abertawe i'r Uwchgynghrair Image copyright Other
Image caption Sgoriodd Pratley 10 gôl i Abertawe y tymor diwethaf

Mae rheolwr tîm pêl droed Abertawe Brendan Rodgers wedi datgan ei obaith y bydd Darren Pratley yn cael ei gymeradwyo gan ddilynwyr yr Elyrch pan fydd yn dychwelyd i Stadiwm Liberty ddydd Sadwrn.

Hwn fydd y tro cyntaf i Pratley chwarae yn erbyn Abertawe ers iddo ymuno â Bolton Wanderers ym mis Mehefin eleni wedi i gytundeb y chwaraewr 26 oed dod i ben ar ddiwedd y tymor.

"Rwy'n gobeithio caiff Darren croeso cynnes ddydd Sadwrn oherwydd chwaraeodd e'n wych i ni'r tymor diwethaf," meddai Rodgers.

"Roeddwn i am gadw Darren am ei fod yn rhan annatod o'n llwyddiant."

Cytundeb newydd

Roedd Pratley, a ddaeth i Abertawe o Fulham am £100,000 yn 2006, wedi bod yn rhan o'r tîm enillodd ddyrchafiad ddwywaith.

Ond collodd ei le yn y tîm cyntaf yn ail hanner y tymor y llynedd wrth i Abertawe ennill eu lle yn y gemau ail gyfle.

Fel eilydd, fe sgoriodd y drydedd gôl yn y fuddugoliaeth yn erbyn Nottingham Forest yn rownd gynderfynol y gemau ail gyfle, ac fe chwaraeodd 35 munud fel eilydd yn y rownd derfynol yn erbyn Reading.

Ond bu Pratley'n feirniadol o gadeirydd y clwb, Huw Jenkins, cyn iddo ymuno â Bolton am oedi ynglŷn â thrafodaethau ynghylch cytundeb newydd.

"Doeddwn i ddim am i Darren adael y clwb ond yn amlwg roedd e'n siomedig am nad oedd ei gytundeb wedi ei threfnu, hyd yn oed cyn imi ddechrau rheoli'r clwb."

Bydd Abertawe yn hyderus o guro Bolton, sydd dri safle o dan yr Elyrch yn yr Uwchgynghrair.

Tabl Uwchgynghrair Barclays

Gemau Gwahaniaeth Goliau Pwyntiau
1. Manchester City 9 +26 25
2. Manchester United 9 +14 20
3. Chelsea 9 +10 19
4. Newcastle 9 +6 19
-----------------------------------------------------------------------------------------
15.ABERTAWE 9 -5 9