BBC Cymru Fyw

Holi dyn ar amheuaeth o ymosodiad rhyw

Published
image copyrightBBC news grab
image captionCafodd Nicholas Griffin ei arestio wrth gyrraedd maes awyr Heathrow

Mae Heddlu'r Gogledd wedi cadarnhau fod dyn 54 oed wedi ei arestio ym Maes Awyr Heathrow ar amheuaeth o ymosodiad rhyw difrifol.

Roedd Nicholas Griffin, sy'n wreiddiol o ardal Glyn Ceiriog, Sir Wrecsam, yn dychwelyd i Brydain o Cambodia.

Yn Cambodia bu'n gyfrifol am gartref i blant amddifad.

Fe adawodd Prydain yn 2006.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu'r gogledd fod yna ddyn 54 oed wedi ei arestio ym maes awyr Heathrow a'i fod yn cael ei hebrwng i Ogledd Cymru er mwyn cael ei holi.