RaboDirect Pro12
- Cyhoeddwyd

Ciciodd maswr Glasgow Duncan Weir 23 o bwyntiau ei ranbarth wrth iddyn nhw guro'r Gweilch yn Firhill nos Wener.
Dyma oedd colled cyntaf y tîm o Gymru yng nghystadleuaeth y Pro12.
Roedd yr ymwelwyr ar y blaen o 12 i 6 ar yr hanner wrth i Matthew Morgan gicio pedair cic gosb.
Ond daeth Weir yn gyfartal ac wedi i'r Gwalch Richard Hibbard gael ei anfon i'r gell gosb wedi awr o chwarae fe fanteisiodd y tîm cartref fod ganddyn nhw un yn fwy ar y cae.
Cafodd Richie Grey gais i Glasgow cyn i Morgan gael cais hwyr i'r ymwelwyr.
Ond methodd a'i throsi.
Scarlets 24-17 Ulster
Cais hwyr Adam Warren sicrhaodd y fuddugoliaeth wedi gêm agos ym Mharc y Scarlets.
Y Scarlets oedd ar y blaen 13-3 ar yr egwyl ar ôl cais Liam Williams a throsiad a chic gosb Aled Thomas.
Ychwanegodd Ian Humphreys ail gic gosb cyn i gais Andrew Trimble roi gobaith i Ulster.
Ond roedd cais Warren wedi 73 munud yn allweddol.
Treviso 50-24 Dreigiau
Ildiodd y Dreigiau saith cais, gan gynnwys tri - dau gan Brendan Williams ac un gan Alessandro Zanni - yn yr 16 munud cyntaf.
Ychwanegwyd ceisiau gan Ludovico Nitoglia, Tobias Botes, Robert Barbieri a Paul Derbyshire.
Ymatebodd y Dreigiau gyda dau gais gan Tonderai Chavhanga ac un gan Steffan Jones.
Connacht 20-26 Gleision Caerdydd
Connacht (17) 20 Ceisiau: O'Halloran, McCarthy Trosiadau: O'Connor 2 Ciciau cosb: O'Connor, Nikora
Gleision (6) 26 Ceisiau: Cuthbert, Laulala Trosiadau: Parks 2 Ciciau cosb: Parks 3 Cic adlam: Park
Brwydrodd y Gleision yn ôl o fod 17-6 i lawr ar yr egwyl i faeddu Connacht yn Galway.
Sgoriodd Tiernan O'Halloran a Mike McCarthy i Connacht yn yr hanner cyntaf gyda Dan Parks yn llwyddo gyda dwy gic gosb.
Ond roedd y Gleision wedi bygwth yn yr hanner cyntaf ac fe ymatebodd Alex Cuthbert a Casey Laulala gyda cheisau a gafodd eu trosi yn fuan ar ôl yr egwyl.
Cais arall Laulala tua diwedd y gêm roddodd y Gleision ar y blaen ac er i gic gosb Miah Nikora ddod â Connacht yn gyfartal, roedd cic gosb a chic adlam gan Parks yn ddigon i sicrhau'r fuddugoliaeth.