Uwchgynghrair Cymru

Uwchgyngrhair Cymru Image copyright Not Specified

Mae'r Seintiau Newydd yn dal ar frig Uwchgynghrair Cymru ar ôl buddugoliaeth ym Mhrestatyn nos Wener.

Dydd Sadwrn un gêm oedd yna, Aberystwyth yn erbyn Bangor.

Fe gychwynnodd hi'n ddramatig yng Nghoedlan y Parc wrth i gôl-geidwad y tîm cartref gael ei anfon o'r cae ar ôl derbyn ei ail gerdyn melyn wedi pedwar munud.

Bu'n rhaid i Aberystwyth chwarae am 86 munud efo 10 dyn.

Dyma oedd 9fed cerdyn coch y tîm ers dechrau'r tymor, mwy nag a gafodd yr un tîm y tymor diwethaf.

Fe arweiniodd cerdyn melyn cyntaf Steve Cann at gic o'r smotyn i Fangor.

Cafodd ail gerdyn melyn am daflu'r bêl at Chris Jones wrth iddo ddathlu ei gôl i'r ymwelwyr.

Gemau cyfartal

Llwyddodd Les Davies i ddyblu'r sgôr wedi 59 munud ar ôl i Aneurin Thomas ymbalfalu yn y gôl.

Gorffennodd y ddwy gem ddydd Sul 1-1.

Yr ymwelwyr aeth ar y blaen wrth i Mark Cadwallader ganfod cefn y gôl wedi 50 munud cyn i Stuart Jones rwydo i'r tîm cartref naw munud yn ddiweddarach.

Roedd cyn-reolwr Castell-nedd yn dychwelyd yno ddydd Sul gyda Lido Afan.

Dyma'r gêm gyntaf iddyn nhw fethu ennill adref y tymor yma.

Kai Edwards rwydodd i'r tîm cartref gyntaf wedi 39 munud cyn i Mark Jones sgorio eiliadau cyn yr hanner i Lido Afan.

Ar y brig

Greg Draper a Phil Baker oedd sgorwyr Y Seintiau, y ddwy yn dod yn yr ail hanner nos Wener.

Gôl Draper wedi 46 munud a'r ail yn dod wedi 86 munud.

Dwy gôl oedd yn y gêm ym Mhort Talbot hefyd.

Caerfyrddin oedd yr ymwelwyr ac maen nhw'n aros ar waelod y tabl wedi iddyn nhw golli'r gêm.

Llwyddodd Martin Rose i roi'r tîm cartref ar y blaen wedi 34 munud o gic o'r smotyn.

Fo gafodd yr ail hefyd yn yr ail hanner.

Drama yn Y Bala

Roedd 'na bedair gôl i gyd yn Y Bala wrth iddyn nhw gael gêm gyfartal yn erbyn Y Drenewydd.

Roedd hi'n gêm ddramatig gyda'r pedair gôl yn dod yn yr ail hanner a dwy yn yr amser ychwanegol am anafiadau.

Zac Evans rwydodd gyntaf wedi 56 munud i'r ymwelwyr cyn i Lee Hunt ddod a'r tîm cartref yn gyfartal.

Rhoddodd Nick Rushton yr ymwelwyr ar y blaen bedwar munud wedi amser ychwanegol cyn i Mark Jones rywdro i'r Bala funud yn ddiweddarach.

Daeth y ddwy gôl wedi i Stuart Jones gael ei anfon o'r cae wedi iddo dderbyn dau gerdyn melyn yn ystod y gêm.

Canlyniadau

Nos Wener:-

Bala 2-2 Y Drenewydd

Port Talbot 2-0 Caerfyrddin

Prestatyn 0-2 Y Seintiau Newydd

Dydd Sadwrn:-

Aberystwyth 0-2 Bangor

Dydd Sul

Llanelli 1-1 Airbus

Castell-nedd 1-1 Lido Afan

Tabl Uwchgynghrair Corbett Sports

Gemau Gwahaniaeth Goliau Pwyntiau
1. Seintiau Newydd 13 +17 32
2. Bangor 13 +11 28
3. Llanelli 13 + 20 27
4. Castell-nedd 13 +14 26
5. Bala 13 +6 24
6. Prestatyn 13 0 17
-----------------------------------------------------------------------------------------
7. Port Talbot 13 -2 17
8. Airbus UK Brychdyn 13 -7 12
9. Aberystwyth 13 -11 10
10. Lido Afan 13 -12 10
11. Y Drenewydd 13 -21 10
12. Caerfyrddin 13 -19 6

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.