Cwpan Carling: Enwau allan o'r het
- Cyhoeddwyd

Joe Mason yn dathlu ei gôl nos Fawrth
Ar ôl i Gaerdydd gyrraedd wyth olaf Cwpan Carling am y tro cyntaf ers 46 o flynyddoedd, fe fyddan nhw nawr yn wynebu Blackburn yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Roedd yr Adar Gleision yn fuddugol o gôl i ddim yn erbyn Burnley yn y bedwaredd rownd nos Fawrth yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Daeth unig gôl y gêm bum munud cyn yr egwyl.
Daeth Don Cowie o hyd i Joe Mason gyda'i bas, a Mason yn rhwydo o ymyl y cwrt cosbi i gornel y rhwyd.
Dyma fydd y gemau yn y rownd nesaf, i'w chwarae yn yr wythnos yn dechrau Tachwedd 28:
Arsenal v Manchester City
Chelsea v Lerpwl
Manchester United v Crystal Palace
Caerdydd v Blackburn
Straeon perthnasol
- 25 Hydref 2011