Cyfnod prawf o newid y clociau?
- Cyhoeddwyd
- comments

Wrth i ni baratoi i droi'r clociau 'nôl ddydd Sul, mae Llywodraeth San Steffan wedi cadarnhau eu bod nhw'n ystyried cael cyfnod prawf lle byddai clociau'n cael eu symud ymlaen awr, drwy'r flwyddyn.
Byddan nhw'n ymgynghori ar y mater gyda holl lywodraethau datganoledig y DU.
Mae cefnogwyr yn dweud y byddai'n llesol i'r amgylchedd ac iechyd pobl.
Wedi troi'r clociau'n ôl am 0200 BST ddydd Sul, mi fydd hi'n tywyllu'n gynt gyda'r nos - ond yn oleuach yn y bore.
Benjamin Franklin, y dyfeisydd a'r gwleidydd Americanaidd, gafodd y syniad gyntaf o droi'r clociau 'nôl, a hynny yn 1784.
Credai bod pobol yn gwastraffu amser golau ar foreau o haf drwy orwedd yn eu gwlâu.
A phe byddai'r clociau'n cael eu troi ymlaen mi fyddai yna fwy o olau gyda'r nos pan fyddai pobol ar eu traed i'w fwynhau.
Ond y nosweithiau tywyll ar ôl troi'r clociau'n ôl yw'r ffactor bwysicaf pam fod yna ragor o ddamweiniau ar y ffyrdd pob Tachwedd.
Ac mae'r dadlau'n parhau a ddylai clociau Prydain gadw'r un amser â gweddill Ewrop.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Hydref 2011
- Cyhoeddwyd31 Hydref 2010