Lloegr 42-4 Cymru

Sam Tomkins Image copyright PA
Image caption Sgoriodd cefnwr Wigan Warriors Sam Tomkins bedwar cais i Loegr

Colli'n drwm oedd hanes tîm rygbi 13 Cymru yn erbyn Lloegr yng nghystadleuaeth y Pedair Gwlad.

Elliot Kear o Bradford oedd unig sgoriwr Cymru wrth iddyn nhw golli i Loegr am yr wythfed tro yn olynol.

Awstralia enillodd y gêm agoriadol yn erbyn Seland Newydd 26-12 .

Enillodd Cymru'r hawl i chwarae ym Mhencampwriaeth y 4 Gwlad drwy ennill Cwpan Ewrop yn 2010 gan guro Ffrainc 12-11 yn Albi.

Lloegr (14) 42

Ceisiau: Tomkins 4, Yeaman, Reed, Heighington, Widdop

Goliau: Sinfield 5

Cymru (0) 4

Cais: Kear

Lloegr: Tomkins, Hall, Reed, Yeaman, Briscoe, Sinfield, Chase, Graham, Roby, Peacock, Ellis, Westwood, Heighington.

Eilyddion: Widdop am Chase (54), Morley am Graham (19), Wilkin am Westwood (25), Jones-Buchanan am Heighington (25).

Cymru: Jones, Kear, Webster, Roets, R. Williams, Briers, Seamark, J. James, Budworth, Dudson, Frizell, Bracek, Flower.

Eilyddion: Kopczak am J. James (1), Watson am Budworth (54), A. James am Dudson (15), Divorty am Bracek (27).

Torf: 10,377

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.