Abertawe 3-1 Bolton

Danny Graham, Scott Sinclair a Joe Allen yn dathlu Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Danny Graham, Scott Sinclair a Joe Allen yn dathlu

Mae Abertawe yn parhau'n ddiguro adref ar ôl maeddu Bolton ddydd Sadwrn, gyda'r goliau i gyd yn dod yn yr ail hanner

Joe Allen roddodd yr Elyrch ar y blaen funudau ar ôl i'r ymwelwyr fynd lawr i 10 dyn ar ôl i Ricardo Gardner gael ail garden felen.

Cic gosb gan Scott Sinclair ddyblodd y fantais ar ôl i Angel Rangel gael ei faglu gan gyn chwaraewr yr Elyrch, Darren Pratley.

Hwn oedd y tro cyntaf i Pratley chwarae yn erbyn Abertawe ers iddo ymuno â Bolton Wanderers ym mis Mehefin eleni wedi i gytundeb y chwaraewr 26 oed dod i ben ar ddiwedd y tymor.

Sgoriodd Danny Graham i'w rhwyd ei hun cyn sgorio'r pen cywir o'r cae i sicrhau'r fuddugoliaeth.

Mae Abertawe yn ddegfed yn Uwch Gynghrair Lloegr.