Dyn 45 oed yn wynebu cyhuddiadau

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn 45 oed o Bort Talbot yn wynebu cyhuddiadau mewn cysylltiad â digwyddiad pan gafodd plismon anafiadau difrifol i'w gefn.

Mae'n wynebu cyhuddiadau o yrru cerbyd yn beryglus, achosi niwed corfforol difrifol, gyrru tra ei fod wedi ei wahardd, defnyddio cerbyd heb yswiriant a dau gyhuddiad o fwrgleriaeth.

Ymddangosodd gerbron ynadon Abertawe fore Sul. Cafodd ei gadw yn y ddalfa ac fe fydd yn ymddangos yn Llys y Goron Abertawe ar Dachwedd 8.

Mae'r heddlu yng Nghastell-nedd Port Talbot yn parhau i apelio am wybodaeth wedi i'r car heddlu fod mewn gwrthdrawiad nos Fawrth.

Cafwyd gwrthdrawiad rhwng car Skoda Octavia melyn a char yr heddlu ger Eglwys Sant Matthew ar Ffordd Longford, Mynachlog Nedd am 11:25pm.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â'r heddlu ar 101 neu gyda Taclo'r Taclau yn ddienw ar 0800 555 111.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol