Leeds 1-1 Caerdydd
- Cyhoeddwyd

Aeth Caerdydd ar y blaen wedi 17 munud pan fanteisiodd Joe Mason ar gamgymeriad gan yr amddiffynnwr Darren O'Dea
Roedd gôl Robert Snodgrass yn yr ail hanner yn ddigon i rwystro Caerdydd rhag cael buddugoliaeth nodedig oddi cartref.
Cafodd gôl-geidwad Caerdydd David Marshall gêm wych gan atal sawl ymgais gan y tîm cartref.
Aeth Caerdydd ar y blaen wedi 17 munud pan fanteisiodd Joe Mason ar gamgymeriad gan yr amddiffynnwr Darren O'Dea.
Ond Leeds oedd yn rheoli'r gêm wedi hynny gyda Snodgrass, Ross McCormack ac Adam Clayton yn rhoi prawf ar Marshall.
Ond doedd gan y gôl-geidwad ddim gobaith pan sgoriodd Snodgrass o flaen y gôl yn dilyn peniad i lawr gan Tom Lees 17 munud cyn y diwedd.
Mae'r Adar Gleision yn parhau yn nawfed yn y tabl.