Ysgol Dyffryn Taf ac Ysgol Lewis yn ennill gwobrau addysgu
- Cyhoeddwyd

Mae dwy ysgol uwchradd yng Nghymru wedi ennill gwobrau cenedlaethol.
Mae ysgol sy'n gallu brolio bod dau o chwaraewyr rygbi Cymru ym mhencampwriaeth Cwpan y Byd ymysg eu cyn-ddisgyblion wedi ennill gwobr addysgu genedlaethol.
Mae'r tîm addysg gorfforol yn Ysgol Uwchradd Dyffryn Taf yn Hendy-gwyn ar Daf yn Sir Gaerfyrddin wedi ennill "tîm eithriadol y flwyddyn" yng Ngwobrau Addysgu Pearson.
Enillodd yr ysgol arall, Ysgol Lewis, Pengam ym Margoed, Caerffili, yn y categori "ffilmio fy ysgol".
Cafodd Ysgol Dyffryn Taf ei henwebu gan gyn-ddisgybl, Dan Newton, sy'n chwarae i dîm Y Scarlets.
"Fel chwaraewr rygbi proffesiynol, rwyf wedi elwa o ffrwyth eu llafur.
'Cydnabod gwaith caled'
"Rwy'n sylweddoli y rhan bwysig y maen nhw wedi ei gael yn fy llwyddiant ac rwyf am ddiolch iddyn nhw a chydnabod eu gwaith caled a'u hymrwymiad."
Mae'r mewnwr Mike Phillips a'r canolwr Jonathan Davies, yn gyn-ddisgyblion.
Dywedodd y prifathro, Dr Robert Newsome, bod y ddau "yn hoff o'u hardal enedigol ac yn gwneud tipyn i'r gymuned leol".
"Maen nhw'n gymeriadau gwahanol iawn ond mae'r ddau ohonyn nhw wedi bod yn ôl yma i wneud cyflwyniadau ac i siarad â'n myfyrwyr."
Yn Ysgol Lewis, Pengam, fe wnaeth y disgyblion greu ffilm gyda'r neges "dylai dysgu fod yn hwyl - dyma sut mae gwneud hynny".
Mae'r ffilm ddwy funud yn dangos arbrofion mewn labordy, cadw'n heini yn y gampfa a gwers hanes yn yr awyr agored.
Cafodd y seremoni yn Llundain nos Sul ei chyflwyno gan y digrifwr Lenny Henry, ac fe wnaed ymddangosiad hefyd gan y Gymraes Alex Jones ynghyd â'i phartner ar Strictly Come Dancing y BBC, James Jordan.