Dyn wedi marw ar ôl gwrthdrawiad â thrên

Mae dyn wedi marw ar ôl gwrthdrawiad gyda thrên yng ngogledd Cymru.

Dywedodd Heddlu Trafnidiaeth Prydain bore swyddogion wedi cael eu galw i safle ger Rhosymedre, Wrecsam, ddydd Sul am 5.15pm.

Mae'r heddlu yn ceisio adnabod y dyn a'r amgylchiadau arweiniodd at ei farwolaeth.

Mae'r crwner wedi cael ei hysbysu.

Os oes gan unrhyw un wybodaeth fe ddylen nhw gysylltu gyda'r heddlu ar 0800 40 50 40 neu Taclo'r Tacle ar 0800 555 11.

Dywedodd yr heddlu mae'r trên 3.07pm o orsaf Rhyngwladol Birmingham i Gaer oedd y trên yn y digwyddiad.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.