Creu 45 o swyddi sgiliau uchel yng Nghwmbrân
- Cyhoeddwyd
Mae cwmni sy'n cynhyrchu meddalwedd ar gyfer y diwydiant telathrebu yn bwriadu creu dros 45 o swyddi yn Nhorfaen.
Fe fydd Tribold yn agor canolfan ymchwil a datblygu yng Nghwmbrân ddydd Llun.
Maen nhw'n darparu gwasanaeth ar gyfer cwmnïau fel Microsoft, Sky a Vodafone.
Dywedodd y cwmni eu bod wedi dewis yr ardal oherwydd nifer uchel o staff sydd â'r sgiliau angenrheidiol yno a phris eiddo.
Fe gafodd y cwmni gefnogaeth ariannol gan Lywodraeth Cymru.
Edwina Hart, Gweinidog Busnes Cymru fydd yn agor y ganolfan ddydd Llun.
Swyddi sgiliau uchel
Dywedodd bod Tribold yn un o'r cwmnïau cyntaf i elwa o Raglen Adnewyddu'r Economi.
"Mae penderfyniad Tribold i leoli eu canolfan ymchwil a datblygu yng Nghwmbrân yn gydnabyddiaeth o'r gweithlu sydd ar gael i gwmnïau yn ne Cymru," meddai Ms Hart.
Y gobaith yw y bydd agor y ganolfan yn hwb i greu mwy o swyddi yn yr ardal.
Dywedodd Prif Weithredwr Tribold, Simon Muderack bod Tribold yn gyffrous am y cyfleoedd sydd ar gael yng Nghymru.
"Mae hwn yn fuddsoddiad enfawr i Tribold a dwi'n hyderus y byddwn yn darparu cynnyrch o safon ar gyfer ein cwsmeriaid byd-eang."