Marwolaethau Clywedog: Cyhuddo dyn

Llyn Clywedog, ger Llanidloes, Powys Image copyright PA
Image caption Bu dau gerbyd mewn gwrthdrawiad ar y B4518 ger Llyn Clywedog

Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cyhuddo dyn o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus ar ôl i bedwar o bobl foddi mewn llyn ger Llanidloes.

Bydd Gordon Dyche, 24 oed o ardal Llanbrynmair, yn ymddangos gerbron ynadon Y Trallwng ar Dachwedd 22 ar bedwar cyhuddiad o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus.

Bu farw'r pedwar, Emyr Glyn Griffith, 66 oed; Phyllis Iris Hooper, 84 oed; Peter Bricome, 14 oed a Liam Govier, 14 oed, ar ôl i'r car yr oedden nhw'n teithio ynddo blymio i Lyn Clywedog ym mis Ebrill.

Roedd y teulu o ardal Pontypridd wedi bod ar wyliau dros y Pasg yn ardal Machynlleth.

Denise Griffith, 55 oed, oedd yn gyrru car Peugeot 807 y teulu.

Fe lwyddodd hi i nofio i'r lan a galw'r gwasanaethau brys.

Bu farw ei mam, ei gŵr a dau o'i meibion maeth yn y ddamwain.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.