Mewn lluniau: Dathlu cylchfannau Cymru mewn calendr
- Cyhoeddwyd
Teithiodd y ffotograffydd Paul Davies dros 1,000 o filltiroedd er mwyn ymweld â 12 o gylchfannau mwyaf nodweddiadol Cymru ar gyfer ei galendr newydd ar gyfer 2012. Mae’r cylchfan bric coch yma yn dod ag ychydig o liw i Ddinbych
Saif Tŷ Pwmpio hanesyddol Doc Penfro ar un o gylchfannau’r dref
Mae gan Sgwâr Twyn ym Mrynbuga, Sir Fynwy, cloc ar ei gylchfan sy’n dathlu jiwbilî euraidd y Frenhines Fictoria yn 1887
Mae’r casgliad artistig yma o arwyddion ffyrdd wedi bod yn atyniad yn ardal Y Sblot o Gaerdydd am flynyddoedd
Mae’r cylchfan yma ar Ynys Y Bari yn rhan o gelf gyhoeddus Cei Jockson
Adeiladwyd cloc Fictoraidd Tredegar yn 1858 diolch i’r arian a gafodd ei hel mewn basâr a drefnwyd gan wraig rheolwr y gweithfeydd haearn cyfagos
Y cylchfan yma ger Pont y Siartwyr yn y Coed Duon, gyda’r cerflun o’r dyn yn cerdded, yw un o’r rhai mwyaf newydd ar y calendar
Mae'r canon yn pwyntio’r ffordd i’r harbwr yn Abergwaun, Sir Benfro
Llechi gleision a chyplysau sy’n addurno’r cylchfan yma ger Castell Caernarfon. Cymdeithas Gwerthfawrogiad Cylchgronau Prydain sy’n cyhoeddi’r calendr yma
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol