Pont wedi ei difrodi

Pont Crughywel Image copyright Other
Image caption Cafodd y bont ei hadeiladu ym 1706

Mae pont hanesyddol dros Afon Wysg ym Mhowys wedi cael ei difrodi yn dilyn damwain wrth i'r heddlu ddilyn car ddydd Sul.

Mae wal a pharapet ar Bont Crughywel, a gafodd ei hadeiladu ym 1706 wedi eu difrodi.

Dywed yr heddlu, oedd yn ymchwilio i ladrad beiciau cwad, eu bod wedi bod dilyn y car "am gyfnod byr".

Dywedodd Cyngor Powys y byddan nhw'n cysylltu â CADW, y corff sy'n gyfrfiol am henebion, er mwyn atgyweirio'r bont.

Blociau concrit

Mae'r heddlu yn holi dau ddyn ynglyn â'r digwyddiad ac maen nhw'n apelio am wybodaeth am ddau lanc arall.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Powys:"Fe gafodd rhan o'r wal ei ddisodli ac mae parapet wedi ei ddifrodi.

"Mae'n rhy gynnar i gyfri'r gost nac i osod amserlen ar gyfer y gwaith atgyweirio."

Yn ôl Heddlu Dyfed-Powys fe gafodd y beiciau eu dwyn o ddau adeilad ym Mhengenffordd nos Sadwrn.

Dywedodd yr Arolygydd Davies fod dau ddyn, 18 oed a 22 oed, wedi'u harestio ar amheuaeth o ddwyn.

Ychwanegodd: "Rydyn ni'n apelio am wybodaeth am ddau lanc, rhwng 16 oed a 19 oed.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â'r heddlu yn Aberhonddu ar 101.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.