Llys: 'Cydlynydd wedi godro elusen'

  • Cyhoeddwyd
James a Miriam BeardFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,
Miriam Beard (yn y llun gyda'i gŵr James) oedd cydlynydd cynllun Cymunedau'n Gyntaf Plas Madoc

Mae rheithgor wedi clywed fod pennaeth cynllun i adfer ystâd tai difreintiedig "wedi godro" £54,000 o gyllid y prosiect ar gyfer ei hun a'i theulu.

Clywodd Llys y Goron Yr Wyddgrug fod Miriam Beard, 55 oed, oedd yn gydlynydd Cynllun Cymunedau'n Gyntaf Plas Madoc yn Acrefair, Wrecsam, wedi cuddio ei heuogfarnau blaenorol.

Mae Mrs Beard, o Henllan, Sir Ddinbych, a'i gŵr, James, 46 oed, yn gwadu nifer o gyhuddiadau twyll a lladrad.

Dywedodd yr erlynydd, Karl Scholz, mai canolbwynt yr achos oedd anonestrwydd, twyll a chelwydd.

'Cuddio ei gorffennol'

Gweithredoedd Mrs Beard oedd yn bennaf gyfrifol am yr achos, yn ôl Mr Scholz.

Dywedodd fod Cynllun Cymunedau'n Gyntaf Plas Madoc yn elusen gofrestredig a gafodd ei sefydlu i wella'r gymuned leol.

Cafodd Mrs Beard ei phenodi fel cydlynydd y cynllun yn 2003 wedi iddi weithio fel cynghorydd ariannol hawliau lles i adran gwasanaethau cymdeithasol Cyngor Wrecsam.

Ond honnodd Mr Scholz fod Mrs Beard wedi cuddio ei gorffennol am ei bod hi wedi honni ei bod hi'n 10 mlynedd yn iau nag yr oedd hi.

Yn ôl Mr Scholz honnodd Mrs Beard ei bod hi wedi dechrau ei gyrfa wedi iddi adael y brifysgol ac ar ôl iddi basio arholiadau Lefel Uwch ac arholiadau TGAU.

Ond clywodd y llys mae'r gwir oedd fod Mrs Beard wedi methu tri arholiad Tystysgrif Addysg Uwchradd (TAU), heb sefyll tri arholiad TAU arall a doedd hi ddim wedi bod i'r Brifysgol.

'Godro'

Dywedodd yr erlynydd fod Mrs Beard wedi ei heuogfarnu am droseddau twyll yn ystod y 1970au ond nad oedd wedi datgelu ei record droseddol.

Ychwanegodd Mr Scholz fod Mrs Beard wedi ei charcharu am gynllwyno i amddifadu trwy dwyll ym 1979.

Dywedodd nad oedd Mrs Beard yn atebol i unrhyw un oedd yn rhan o gynllun Plas Madoc heblaw am Fwrdd Ymddiriedolwyr.

Ychwanegodd nad oedd gan y bwrdd lawer o brofiad ymarferol o'r cynllun.

Yn ôl yr erlynydd bu Mrs Beard, i bob pwrpas, yn defnyddio asedau'r elusen ar ei liwt ei hun gan "odro" £54,000 o'r elusen.

Clywodd y llys fod Mrs Beard wedi talu £18,300 i'w mab, Daryl Kelly, wedi iddi esgus ei fod yn berchen carafán ar yr arfordir oedd yn cael ei rhentu i'r cynllun er defnydd trigolion Plas Madoc.

Pan fu ymchwiliad i'w chefndir penderfynodd Mrs Beard newid ei stori gan honni ei bod yn talu'r £18,300 i'w mab i gynnal a chadw'r garafán am ddwy flynedd.

Ond yr elusen oedd yn berchen y garafán yn ôl yr erlynydd.

Cerdyn tanwydd

Clywodd y llys fod yr elusen wedi talu £3,000 i Mr Kelly am gerbyd a bod tystiolaeth yn dangos ei fod wedi prynu cerbyd arall am £2,000 cyn ei werthu i'r elusen am £8,000.

Honnwyd bod Mrs Beard wedi gadael i'w mab ddefnyddio ei cherdyn tanwydd a bod y bil yn £4,000 dros gyfnod o 15 mis.

Hefyd, honnwyd bod Mrs Beard wedi trefnu i ddwy siec gwerth mwy na £25,000 gael eu talu i gyfrif ei thad am redeg neu gynnig gwasanaethau i blant na chafodd fyth ei weithredu.

Yna cafodd yr arian ei dynnu allan o gyfrif ei thad cyn cael ei dalu mewn i gyfrif Mrs Beard.

Ond doedd yna ddim awgrym fod ei thad yn gwybod beth oedd yn digwydd.

Mae Mrs Beard yn gwadu 12 cyhuddiad o dwyll ac un cyhuddiad o ddwyn gyda'i gŵr.

Mae ei gŵr yn gwadu chwe chyhuddiad o dwyll a dau gyhuddiad o ddwyn.

Y disgwyl yw i'r achos bara o leiaf pythefnos.

Mae'r achos yn parhau.