Cwmni 'gwyrdd' yn creu 20 swydd
- Cyhoeddwyd

Mae cwmni ymgynghorol ar gyfer yr amgylchedd yn bwriadu creu hyd at 20 o swyddi newydd yng Nghymru.
Agorodd ERM eu swyddfa newydd yn Abertawe ddydd Llun.
Bu'r cwmni yn rhan o'r cynllun gwerth £350m i adfywio hen safle'r gwaith dur yng Nglyn Ebwy yn ddiweddar.
Mae cleientiaid cwmni yn cynnwys llywodraethau, cynghorau, Tata, NPower a Tesco ac mae ganddyn nhw chwe swyddfa arall yn y Deyrnas Unedig.
Potensial
"Dywedodd partner rheoli ERM, Steve Matthews: "Rydyn ni'n credu bod man hyn yn lle gwych i wneud busnes."
Mae ERM wedi darparu asesiad effaith i Orsaf Bŵer Aber-nedd ym Maglan ac wedi bod yn rhan o raglenni iechyd a diogelwch terfynfa LNG ger Aberdaugleddau.
Cafodd y penderfyniad i agor swyddfa yn Abertawe ei gymeradwyo gan Weinidog Busnes Llywodraeth Cymru, Edwina Hart.
Dywedodd Mrs Hart fod ynni a'r amgylchedd yn sectorau allweddol yn economi Cymru am fod ganddynt y potensial i greu swyddi gwyrdd a thwf mawr yn y diwydiant.
"Mae ERM yn ymuno â nifer o gwmnïau llwyddiannus sy'n gweithio yn y sector hwn yng Nghymru," meddai.
Dywed ERM eu bod yn awyddus i greu cysylltiadau gyda phrifysgolion a cholegau Cymreig a chyflogi graddedigion o Gymru.
Mae'r cwmni yn bwriadu gweithio ag ysgolion lleol i godi ymwybyddiaeth o faterion amgylcheddol a chynaliadwyedd gan annog disgyblion i ystyried gyrfaoedd yn y sectorau hyn.