Gardd goffa: Cofio'r milwyr fu farw
- Cyhoeddwyd

Mae gardd goffa wedi ei hagor yn y cymoedd er cof am y rhai fu farw mewn brwydrau arfog ers y Rhyfel Byd Cyntaf.
Bydd pobl yn gallu gadael eu teyrngedau personol yn yr ardd ym Mharc Treftadaeth y Rhondda, ger Pontypridd.
Mae'r atyniad i dwristiaid hefyd yn cynnwys arddangosfa o luniau rhyfel a cherflun anferth o filwr.
Mae'r cerflun yn ceisio codi ymwybyddiaeth ynglŷn â'r anawsterau a wynebir gan filwyr sy'n dychwelyd o frwydrau a rhyfeloedd.
Mae wyneb y cerflun wedi ei seilio ar wyneb milwr oedd wedi'i anafu.
Cafodd y cerflun eisoes ei arddangos yng Nghastell Caerdydd, Swydd Stafford a Chastell Caerwysg eleni.
Afghanistan
Dywedodd is-gyrnol Gareth Pennell, llywydd Y Lleng Prydeinig ym Mhontypridd, ei fod yn bwysig i gofio pawb oedd wedi eu lladd ym mhob brwydr.
"Rwy'n credu bod Byddin Prydain wedi colli rhywun mewn brwydr ym mhob flwyddyn heblaw am 1968," meddai.
"Mae'n bwysig iawn i gofio pawb sydd wedi marw yn enwedig pan rydych chi'n ystyried bod bron i 400 o filwyr Prydain wedi marw yn Afghanistan."
Dydd Llun bu disgyblion Ysgol Gynradd Trehafod yn rhan o wasanaeth a gafodd ei chynnal yn y parc treftadaeth i nodi agor yr ardd goffa.
Mae'r arddangosfa yn cynnwys lluniau rhannol haniaethol gan yr arlunydd Patricia Mears o Lanilltud Fawr ym Mro Morgannwg.
Mae ei dau fab yn aelodau o'r fyddin ac yn gwasanaethu yn Afghanistan ar hyn o bryd.
Bydd yr elw o'r arddangosfa yn cael ei roi i'r elusen Help for Heroes a'r Lleng Prydeinig.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Gorffennaf 2011
- Cyhoeddwyd18 Mawrth 2009