Gŵyl Olympaidd am ddathlu Cymru

Bryn Terfel
Image caption Bryn Terfel fydd yn arwain presenoldeb Cymru yng Ngŵyl y Byd

Bydd Bryn Terfel yn arwain criw o gantorion a cherddorion Cymreig yng ngŵyl ryngwladol y Southbank, Llundain, yn 2012.

Cafodd Gŵyl y Byd ei hysbrydoli gan Pierre de Coubertin, sefydlydd y symudiad Olympaidd modern.

Bydd yn rhedeg o Fehefin 1, diwrnod y jiwbilî aur, hyd ddiwedd y gemau paralympaidd ar Medi 9.

Nod yr ŵyl yw creu awyrgylch cymunedol, gyda thraeth trefol a marchnad fwyd wythnosol.

Bydd y baswr Bryn Terfel yn arwain dathliad pedwar diwrnod o ddiwylliant a threftadaeth Cymreig gan gynnwys opera, jazz a chomedi.

Dywedodd Jude Kelly, cyfarwyddwr y Southbank; "Nod y symudiad Olympaidd yw rhoi cyfle i bawb i fod y gorau y gallant fod.

"Rydym yn ymestyn pob math o wahoddiadau o amgylch y wlad i bobl ddod draw a chymryd rhan mewn dawns, celfyddydau gweledol a phob math o feysydd eraill.

"Dwi'n gobeithio y byddant eisiau cymryd rhan. Dwi hefyd yn gobeithio y byddant yn teimlo bod y bobl maent yn gweld yn creu celf yn rhan o'u diwylliant nhw, yn adrodd eu stori nhw a'u bod yn deall rhywbeth am eu bywyd."

Bydd arddangosfa celf a ffilm yn y Royal Festival Hall yn dathlu ymdrechion diwylliannol de Coubertin.

Bydd hefyd gŵyl barddoniaeth a phentref artistiaid yn Neuadd y Frenhines Elizabeth yn annog pobl o ledled y byd i rannu straeon.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.