Panto yn y Lebanon i ferch o'r Fflint

Kayleigh Strong Image copyright Other
Image caption Bydd Kayleigh yn chwarae'r brif ran yn Snow Whiteyn y cynhyrchiad yn Lebanon

Doedd perfformwraig o Sir y Fflint ddim yn disgwyl perfformio mewn pantomeim yn Lebanon.

Kayleigh Strong enillodd y Wrex Factor eleni, cystadleuaeth talent yn Wrecsam.

Fel gwobr fe fydd y ferch 22 oed o'r Fflint yn ymuno a'r cast mewn perfformiadau yn Dwyrain Canol mis Rhagfyr.

O ddiwrnod Nadolig ymlaen fe fydd Kayleigh yn chwarae'r brif ran mewn 10 perfformiad o Snow White and the Seven Dwarfs yn Casino Du Liban, i'r gogledd o brifddinas y wlad, Beirut.

Mae'r cynhyrchydd ac un o feirniaid Wrex Factor, Lee Kelly, yn cyfaddef iddo beidio ystyried y gwahoddiad gan gyfaill i ddod a'i sioe draw i Lebanon yn gynharach eleni fel un o ddifri yn wreiddiol.

"Ond maen nhw'n cynnal pedwar sioe ryngwladol pob blwyddyn er mwyn dangos pethau gwahanol i'r gynulleidfa," meddai.

"Dwi'n hapus iawn i gael merch mor dalentog yn y brif ran eleni.

"Mi wnes i gyfarfod Kayleigh yn ystod y Wrex Factor, a'i gwobr oedd chwarae tylwyth teg ym mhanto Cindarela yn Y Stiwt yn Rhosllannerchrugog eleni.

"Ond pan ddaeth y cyfle i fynd i Lebanon, penderfynais ei bod hi'n haeddu mynd, mae ganddi lais ffantastig."

Mae set y panto newydd gael ei anfon draw i'r Dwyrain Canol, y set gafodd ei defnyddio ar gyfer y cynhyrchiad yn Y Stiwt y llynedd.

Mae Lebanon yn rhannu ffiniau gydag Israel a Syria ac wedi bod yn wlad beryglus iawn i ymwelwyr yn y gorffennol.

Bu farw miloedd mewn rhyfel cartref rhwng 1975 a 1990 a chafodd sawl gorllewinwr eu herwgipio yn y brifddinas yn y 1980au.

Ond er bod y Lebanon yn profi ansicrwydd gwleidyddol hyd heddiw, mae'r diwydiant twristiaeth wedi cynyddu, gyda mwy na 2.5 miliwn o ymwelwyr rhyngwladol yn 2010, yn ôl gweinyddiaeth twristiaeth y wlad.

Er hynny, dywedodd Kayleigh ei bod hi a'i theulu braidd yn nerfus o'i ymweliad a'r Dwyrain Canol, yn enwedig gyda'r trafferthion dros y ffin.

Ond mae hi'n benderfynol o wneud y gorau o'r cyfle i berfformio a bwrw 'mlaen efo'i yrfa gerddorol ar ôl ennill y Wrex Factor.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.