Cwmni i ddiswyddo 49 o weithwyr
- Cyhoeddwyd
Bydd cwmni sy'n cynhyrchu polythen yn cau eu ffatri, gan ddiswyddo 49 o weithwyr.
Dywed British Polythene Industries (BPI) fod y safle yn Abertawe wedi bod yn colli arian ers nifer o flynyddoedd.
Roedd y ffatri'n cynhyrchu polythen ar gyfer dodrefn a pheiriannau i'w defnyddio yn y tŷ.
Mae Aelod Seneddol Dwyrain Abertawe, Sian James, wedi galw ar y cwmni i ailfeddwl.
Ond mewn llythyr i'r Aelod Seneddol, dywed BPI nad yw'n rhagweld y sefyllfa economaidd yn gwella.
Amser caled
Bydd rhan o'r gwaith yn cael ei symud i ffatrïoedd eraill y cwmni.
"Fe fyddwn yn ymgynghori gyda'r undebau llafur dros gyfnod o 30 diwrnod mewn ymdrech i ail leoli cymaint o weithwyr ag sy'n bosib," meddai llefarydd ar ran y cwmni.
Cafodd staff wybod am y penderfyniad fore dydd Mawrth.
"Mae colli hyd at 49 o swyddi'n beth ofnadwy, ac mae'n arbennig o galed i deuluoedd yr adeg yma o'r flwyddyn," meddai Ms James.