Lladradau: Problemau pêl-droedwyr

  • Cyhoeddwyd

Mae pêl-droedwyr yng Nghwm Afan wedi'u gorfodi i chwarae gemau mewn ardal arall wedi i beipiau copr gael eu dwyn o ystafelloedd newid pedwar o'r pum cae.

Mae Clwb Pêl-droed Glyncorrwg, Gwynfi Utd, Croeserw Utd, Croeserw Athletic a Chlwb Pêl-droed Cwmafan i gyd yn chwarae yng Nghynghrair Port Talbot a'r Cyffiniau.

Mae peipiau wedi cael eu dwyn o bedwar cae ac nid yw pêl-droedwyr yn gallu chwarae ar y cae arall yng Nghroeserw am ei fod yn cael ei ailwampio ar hyn o bryd.

Mae BBC Cymru wedi gofyn i Gyngor Castell-nedd Port Talbot, sy'n rheoli rhai o'r caeau, am eu hymateb.

Nifer o broblemau

Mae'n debyg fod y lladradau wedi digwydd yn ystod yr wythnosau diwethaf.

Dywedodd Dave King, ysgrifennydd Cynghrair Port Talbot a'r Cyffiniau fod y lladradau wedi achosi nifer o broblemau i'r clybiau pêl-droed.

"Mae pump o'r 27 tîm yn y gynghrair wedi'u lleoli yng Nghwm Afan," meddai Mr King.

"Maen nhw wedi gorfod teithio i Bort Talbot i chwarae bob wythnos.

"Mae pethau wedi mynd yn waeth yn ystod y mis diwethaf am nad oed digon o gaeau i gynnal y timau hyn ym Mhort Talbot.

"Efallai bydd rhaid i dimau chwarae deirgwaith yr wythnos os bydd y clybiau yn cytuno i wneud hynny.

"Ond mae rheolau'r gynghrair yn dweud na allwn ni chwarae'r un gêm ar ôl Mai 31 y flwyddyn nesaf."

Mae Gary Thomas, ysgrifennydd Gwynfi Utd, wedi galw ar gyngor Castell-nedd Port Talbot i adfer yr ystafelloedd newid.

Ychwanegodd: "Rydyn ni wedi dioddef tri lladrad yng Ngwynfi.

"Mae'r caeau yn weddol anghysbell felly mae'n bosib i ladron dreulio oriau yn dwyn y peipiau."

Mae BBC Cymru wedi gofyn i Heddlu De Cymru am eu hymateb.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol