Myfyriwr yn helpu i ddarganfod comed

  • Cyhoeddwyd

Mae myfyriwr seryddiaeth ym Mhrifysgol Morgannwg wedi helpu i ddarganfod comed, sy'n rhannu orbit â'r blaned Iau.

Daw hyn wedi i fyfyriwr chweched dosbarth ar brofiad gwaith yr haf hwn helpu i ddarganfod 22 asteroid newydd rhwng planedau Mawrth ac Iau.

Ym mis Awst, roedd Hannah Blyth, 18 oed o Gas-bach ger Casnewydd, yn defnyddio telesgop rheolaeth bell i edrych i'r awyr yn y nos.

Llwyddodd i weld yr asteroidau newydd fel rhan o dîm dan arweiniad Nick Howes, o'r Prosiect Telesgôp Faulkes yn y brifysgol.

Nawr, fel rhan o'r darganfyddiad diweddara', mae myfyriwr ail flwyddyn yn y brifysgol, Antos Kasprzyk, wedi llwyddo i ddatrys dryswch gwrthrych anarferol a welwyd gan seryddwr o America.

"Mae'n anhygoel fy mod wedi cael rhan yn y fath ddarganfyddiad," meddai.

Gwrthrych anarferol

Mae Nick Howes, mewn cydweithrediad â seryddwyr yn yr Eidal, yn arwain rhaglen asteroidau a chomedau, yn ymchwilio i ddarganfyddiadau trwy ddefnyddio telesgopau rheolaeth bell yn Hawaii ac Awstralia.

Y tro hwn roedd y tîm yn ymchwilio wedi i rywun weld gwrthrych anarferol yn y nos, ac roedd Mr Kasprzyk yn defnyddio'r telesgop yn Awstralia i edrych yn fanylach.

Dywedodd: "Roedd orbit rhagarweiniol yn dangos yn syth fod hwn yn wrthrych anarferol iawn, ond daeth ei wir natur yn amlwg pan welon ni luniau wedi'u prosesu."

Mae bellach wedi cael ei enwi'n Comed P/2010 TO20.

Yn ôl Mr Howes: "Y tro cynta' welon ni'r orbit rhagarweiniol, roedden ni'n gwybod ei fod yn wrthrych hynod - ac mae cael myfyriwr prifysgol yn rhan o'r peth yn wych i'r cwrs gradd ym Morgannwg ac i brosiect Faulkes hefyd."

Bydd tîm Faulkes, ynghyd â myfyrwyr Prifysgol Morgannwg, yn parhau i astudio'r gomed dros y blynyddoedd nesa', yn cofnodi ei thaith araf o amgylch yr haul.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol