Arian Ewrop: Angen dysgu gwersi
- Cyhoeddwyd

Bydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn defnyddio'u dadl yn y senedd ddydd Mercher i annog Llywodraeth Cymru i ystyried y defnydd o arian Ewrop.
Mae ffigyrau diweddaraf yr Undeb Ewropeaidd yn dangos fod Gorllewin Cymru a'r Cymoedd yn gymharol dlotach er gwaethaf derbyn biliynau o bunnau o Ewrop.
Mae 59 o'r 66 rhanbarth sydd wedi derbyn arian adfywio o Ewrop yn gyfoethocach oherwydd hynny.
Ar y llaw arall mae mesur cyfoeth Cymru (GDP) wedi dirywio o fod yn 66.8% o gyfartaledd Ewrop i 64.4% o'r cyfartaledd.
'Cymru'n dlotach'
Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddysgu o'u camgymeriadau, a dywedodd eu harweinydd, Kirsty Williams:
"Mae'r feirniadaeth ddamniol o allu economaidd Llywodraeth Cymru.
"Mae mwyafrif yr ardaloedd a gafodd arian Ewrop yn gyfoethocach tra bod Cymru wedi mynd yn dlotach.
"Mae'n hanfodol bod y llywodraeth yn dysgu gwersi o'r gorffennol. Mae yna arian o Ewrop sy'n dal heb gael ei wario, ac fe allwn ni fod yn gymwys am fwy o arian yn y dyfodol.
"Rhaid i'r arian yma gael ei wario ar greu swyddi a chael yr economi i ddechrau symud.
"Yn y gorffennol, mae Llywodraeth Cymru wedi methu cael gweledigaeth ar sut i wario biliynau o bunnau o arian y GE.
"Dydyn nhw erioed wedi cael strategaeth glir ynglŷn â sut yn union i wario'r arian.
"Gobeithio fod y gwersi wedi cael eu dysgu ac y byddan nhw'n gwneud pethau'n iawn pe bai Cymru'n gymwys ar fwy o arian yn 2013."
'Cyswllt hanfodol'
Bydd mesur y Democratiaid Rhyddfrydol hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu cynllun i olynu Ysgoloriaethau Mentergarwch Tywysog Cymru (POWIS).
Dywed llefarydd y blaid ar Ewrop, Eluned Parrott:
"Mae'n ymddangos bod Llywodraeth Cymru wedi tynnu'r arian yn ôl o POWIS heb gynllun i'w osod yn ei le.
"Roedd y cynllun yn cynnig cyswllt rhwng ymchwil ac entrepreneuriaeth, sydd yn hanfodol os ydym am annog yr economi i dyfu.
"Cafodd y cynllun ei ddiddymu heb rybudd. Roedd hyn yn newyddion trist o ystyried cyfraniad gwerthfawr y cynllun.
"Rydym nawr yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatgan yn glir pa drefniadau sy'n cael eu gwneud fel rhywbeth i gymryd lle'r cynllun."
Straeon perthnasol
- 13 Hydref 2011
- 30 Medi 2010
- 7 Gorffennaf 2010